Gemau ail-gyfle Cwpan y Byd: Faint o her fydd Bosnia a Herzegovina?

Bosnia a Herzegovina

Mae 11 mlynedd wedi bod ers i Gymru wynebu Bosnia a Herzegovina ar y cae pêl-droed.

Bosnia oedd yn fuddugol o 2-0 yn y gêm honno - ond nid oedd yn ddigon iddyn nhw yn y cyd-destun ehangach, wrth i Gymru orffen yn ail yn y grŵp cymhwyso a sicrhau eu lle yn Euro 2016.

Ers hynny mae Cymru wedi chwarae yn Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022, tra bod Bosnia heb gymhwyso ar gyfer unrhyw brif gystadleuaeth.

Ond er hynny, mae ganddyn nhw chwaraewyr sydd yn chwarae yng nghynghreiriau gorau Ewrop ac sydd â llawer o brofiad ar y llwyfan rhyngwladol.

Pwy felly fydd angen i chwaraewyr Cymru fod y wyliadwrus ohonynt yn y gêm ail-gyfle nos Iau?

Cadarn yn y cefn

Fel Cymru, roedd Bosnia wedi gorffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol ac yn gorfod ennill dwy o gemau i gyrraedd Cwpan y Byd Mecsico, Canada ac America.

Un gêm yn unig oedd y wlad wedi ei cholli yn y grwpiau rhagbrofol, ac roedd eu hamddiffyn yn rhan bwysig wrth gyflawni hynny.

Efallai bydd rhai o gefnogwyr Cymru yn cofio Sead Kolašinac - sydd yn debyg mewn sawl ffordd i Ben Davies.

Mae'r cyn amddiffynnwr Arsenal yn 33 oed ac fel Ben Davies, mae wedi symud i ganol yr amddiffyn wrth iddo agosáu at ddiwedd ei yrfa.

Mae ganddo 62 o gapiau dros ei wlad ac mae wedi chwarae 13 o gemau i'w glwb y tymor hwn. 

Er ei fod wedi bod ar y fainc yn ddiweddar, fe fydd ei brofiad oddi ar y cae yn amhrisiadwy i'w garfan.

Un sydd wedi bod yn perfformio'n dda dros ei wlad yw Tarik Muharemović.

Mae'r amddiffynnwr 23 oed wedi bod yn gadarn iawn i'w wlad yn ystod y gemau rhagbrofol fel rhan o'r pedwar yn yr amddiffyn.

Eleni mae wedi chwarae 26 o gemau i'w glwb Sassuolo yn yr Eidal.

Image
Esmir Bajraktarevic. (Llun: Bosnia a Herzegovina)
Esmir Bajraktarević yn sgorio yn erbyn Rwmania. (Llun: Bosnia a Herzegovina)

Esmir Bajraktarević fydd y prif gyswllt rhwng canol cae ac ymosodwyr Bosnia.

Dim ond 20 oed yw e ond mae wedi sicrhau ei le ym mhrif garfan ei wlad ac yn un o dimau gorau'r Iseldiroedd, sef PSV.

Mae'n chwaraewr technegol sy'n defnyddio ei greadigrwydd a chyflymder i osod ei hun mewn safleoedd i saethu.

Bydd disgwyl iddo naill ai chwarae tu ôl yr ymosodwr neu ar y dde er mwyn torri mewn i ganol y cae a saethu ar ei droed chwith.

Un gôl mae wedi sgorio dros ei wlad, ond mae wedi creu tipyn o goliau i'w ymosodwyr.

Yr ymosodwyr hynny yw Edin Džeko, Ermedin Demirović a Haris Tabaković.

Mae Džeko yn enw cyfarwydd, wedi iddo dreulio sawl blwyddyn yn chwarae i Manchester City yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Er ei fod yn 40 oed bellach, mae'n dal i sgorio dros ei wlad.Fe fydd cyfle i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd - a hynny o bosib am y tro olaf yn ei yrfa - yn ddigon o gymhelliant iddo nos Iau.

Yn ystod yr ymgyrch rhagbrofol mae Bosnia wedi chwarae gydag un ymosodwr yn bennaf, ond ar un neu ddau achlysur maen nhw wedi penderfynu gosod dau ymosodwr ar y cae.

Image
Edin Dzeko yn ceisio saethu heibio Ashley Williams a Neil Taylor yn 2012. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)
Edin Džeko yn ceisio saethu heibio Ashley Williams a Neil Taylor yn 2012. (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Gyda Džeko yn 40 oed mae'n bosib byddwn yn gweld partneriaeth rhwng Ermedin Demirović a Haris Tabaković yn yr ymosod ar gychwyn y gêm.

Dim ond yn ddiweddar mae Tabaković wedi ei gynnwys yng ngharfan ei dîm cenedlaethol, a hynny yn gymharol hwyr yn ei yrfa.

Y tymor hwn mae'r ymosodwr 31 oed wedi sgorio 13 o goliau mewn 29 o gemau i'w glwb Borussia Mönchengladbach yn yr Almaen.

Fel Tabaković, mae Demirović hefyd yn chwarae yn yr Almaen, ac mae wedi sgorio naw o goliau i'w glwb Stuttgart y tymor hwn.

Mae e fel ci gydag asgwrn ar y cae, dyw e ddim yn ildio i unrhyw un ac yn un sydd yn hoff o frwydro yn gorfforol gydag amddiffynwyr.

Fe fydd yn llond llaw i amddiffynwyr Cymru ac yn brwydro am bob pêl ymhob un sefyllfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.