Bwrdd iechyd yn ymddiheuro ar ôl defnyddio offer llawfeddygol heb eu sterileiddio
Mae bwrdd iechyd wedi ymddiheuro ar ôl i 21 o gleifion gael eu trin gydag offer llawfeddygol nad oedd wedi cael eu sterileiddio yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
Mae'r digwyddiad wedi gadael y cleifion mewn perygl o gael eu heintio â firysau sy'n cael eu cludo yn y gwaed, sy'n cynnwys HIV, Hepatitis B a Hepatitis C.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan bod y risg o drosglwyddo firysau sy'n cael eu cludo yn y gwaed yn "isel iawn" a'u bod wedi cysylltu gyda phob claf sydd wedi ei effeithio er mwyn cynnig cefnogaeth.
Daw'r ymddiheuriad yn dilyn digwyddiad lle cafodd offer llawfeddygol eu diheintio ond ni chawsant eu rhoi trwy'r cam sterileiddio olaf cyn cael eu defnyddio.
Bydd y cleifion sydd wedi eu heffeithio yn cael "profion rhagofalus" i weld a ydynt wedi dal unrhyw firysau o ganlyniad i'r digwyddiad.
Daeth yr achos i'r amlwg wedi i chwythwr chwiban siarad â gwasanaeth newyddion WalesOnline.
'Digwyddiad cyfyngedig iawn'
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Yn dilyn problem a oedd yn effeithio ar sterileiddio nifer fach iawn o offer meddygol yn Ysbyty Brenhinol Gwent, rydym yn cymryd camau rhagofalus i gefnogi’r 21 o gleifion sydd wedi'u heffeithio.
"Er bod yr offer wedi cwblhau’r camau glanhau a diheintio cychwynnol, ni aethant trwy’r cyfnod sterileiddio terfynol.
"Rydym eisoes wedi cysylltu â’r cleifion sydd wedi'u heffeithio ac eisiau cynnig ein hymddiheuriadau diffuant am y pryder y gallai’r sefyllfa hon ei achosi.
"Er bod y risg glinigol o ddod i gysylltiad â feirws sy'n cael ei gludo yn y gwaed yn isel iawn, rydym wedi trefnu profion a chefnogaeth ragofalus i roi sicrwydd."
Ychwanegodd y bwrdd iechyd mai "digwyddiad cyfyngedig iawn" oedd hwn ac nad oes achos ehangach i bryderu.