Llid yr ymennydd: Annog myfyrwyr Prifysgol Caint sydd nôl yng Nghymru i gysylltu â'u meddyg

Llid yr ymennydd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog myfyrwyr Prifysgol Caint yn ne Lloegr, sydd wedi dychwelyd adref i Gymru, i gysylltu â'u meddyg teulu am wrthfiotigau yn dilyn achos o lid yr ymennydd yno.

Wrth i'r achosion o lid yr ymennydd gynyddu yng Nghaergaint, mae'r corff iechyd yn ceisio dod o hyd i bobl o Gymru sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.

Mae'r asiantaeth yn cynghori unrhyw un a ymwelodd â Club Chemistry rhwng 5 a 7 Mawrth ac i fyfyrwyr Prifysgol Caint gael presgripsiwn gwrthfiotigau ataliol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud eu bod yn ymwybodol y gallai rhai myfyrwyr fod wedi dychwelyd adref i Gymru o'r brifysgol ac y dylen nhw gysylltu â'u meddyg teulu i gael presgripsiwn gwrthfiotigau os nad oedd modd iddynt dderbyn y rhain cyn dychwelyd i Gymru.

Dywedodd Wendi Shepherd, dirprwy gyfarwyddwr diogelu iechyd y corff, eu bod yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU.

"Wrth i fyfyrwyr o Brifysgol Caint ddychwelyd adref, mae'n bwysig eu bod yn cael mynediad at wrthfiotigau ataliol os ydynt yn gymwys, er mwyn amddiffyn eu hunain ac i atal unrhyw drosglwyddiad i eraill," meddai mewn datganiad.

"Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU i nodi pobl a allai fod yn gymwys i gael eu brechu."

Daw'r alwad ar ôl i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU gadarnhau pum achos newydd o lid yr ymennydd yng Nghaint, gan ddod â nifer yr achosion i 20.

Mae Prifysgol Caint wedi dechrau cyflwyno brechlynnau meningitis B i tua 5,000 o fyfyrwyr sy'n byw ar y campws yng Nghaergaint ac yn parhau i gynnig miloedd o ddosau o wrthfiotigau i fyfyrwyr a staff.

Daw hyn ar ôl i ddau fyfyriwr farw ar ôl achos o lid yr ymennydd yn gysylltiedig â Club Chemistry yng Nghaergaint rhwng 5 a 7 Mawrth.

Symptomau llid yr ymennydd

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae brechu’n "ddull allweddol" o amddiffyn rhag llid yr ymennydd.

Os cafodd plentyn ei eni ar neu ar ôl 1 Medi 2015, bydd wedi cael cynnig brechiad yn erbyn llid yr ymennydd B fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio reolaidd i blant. 

Mae brechiad erbyn llid yr ymennydd math A, C, W ac Y yn cael ei chynnig i bobl ifanc tua 13/14 oed, ond mae modd rhoi brechiad i fyny hyd at 25 oed.  

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad yw brechu’n amddiffyn rhag pob straen llid yr ymennydd.

"Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd, gan y gall waethygu'n gyflym. Gall diagnosis cynnar a thriniaeth gyda gwrthfiotigau wella canlyniadau'n sylweddol," meddai.

Mae symptomau cynnar, nad ydynt bob amser yn bresennol, yn cynnwys:

  • Twymyn
  • Pen tost / Cur pen difrifol
  • Chwydu
  • Gwddf stiff
  • Ddim yn hoffi goleuadau llachar
  • Brech nad yw'n pylu pan gaiff ei wasgu â gwydr
  • Dryswch
  • Bod yn gysglyd iawn neu'n anodd deffro
  • Trawiadau neu ffitiau

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.