Ymosodiadau cŵn ar anifeiliaid: Angen i ddeddf newydd 'fynd ymhellach'
Rhybudd: Gallai'r lluniau yn yr erthygl hon beri gofid.
Mae angen i ddeddf sy'n dod i rym ddydd Mercher sy'n rhoi grymoedd newydd i fynd i'r afael ag ymosodiadau cŵn ar anifeiliaid "fynd ymhellach" meddai cyn ffermwraig o Geredigion.
Rhoddodd Liz Nutting y gorau i ffermio ar ôl i berchennog cŵn a laddodd y rhan fwyaf o'i defaid, gael dirwy o £75 ym mis Ebrill 2023.
Roedd gwerth y golled ariannol iddi hi a'i chymydog ym Mhont Creuddyn ger Llanbedr Pont Steffan tua £6,500.
Roedd rhai o'r ŵyn a gafodd eu lladd mor ifanc â 10 mis oed.
Dros flwyddyn ar ôl yr ymosodiad derbyniodd Evan Jones o Bont Creuddyn ddirwy o £75 am droseddau pryderu da byw.
"Mae'n dal i effeithio ni, pob nos rydym dal yn clywed y cŵn yn cyfarth tua hanner milltir i ffwrdd yn unig," meddai Liz Nutting wrth Newyddion S4C.
"Dwi dal ddim yn gallu cerdded ar rannau o fy nhir gyda'r un pleser o'n i arfer gwneud o hyd, bydd yr atgofion erchyll yna bob tro.
"Dwi'n cofio gweld cynffonnau ar y llawr, roedd coes un ddafad wedi ei rhwygo oddi ar ei chorff. Ffoniais fy nghymydog ar y fferm drws nesaf ac fe redodd allan yn syth. Cafodd 15 o'i ddefaid eu lladd.
"Felly mae wedi cael effaith enfawr ar ein bywydau. Roedd yn brofiad dinistriol ac un fyddai byth yn anghofio."
Fe fydd y pwerau, sydd yn dod i rym ddydd Mercher yng Nghymru a Lloegr, yn diweddaru Deddf Cŵn (Amddiffyn Da Byw) 1953.
Bydd swyddogion yn medru meddiannu cŵn, codi costau am eu cadw mewn cwb a chymryd samplau DNA o anifeiliaid sydd yn cael eu hamau o ymosod ar stoc.
Fe fydd modd rhoi dirwy amhenodol hefyd i berchnogion, yn hytrach na'r uchafswm presennol o £1,000.
'Isafswm £1,000'
Mae Liz Nutting yn croesawu newid yr uchafswm, ond yn dweud mai £1,000 ddylai fod yr isafswm i berchnogion cŵn sydd yn ymosod ar dda byw.
"Dwi'n meddwl £1,000 dylai fod yr isafswm, dwi wir yn," meddai.
"A dwi'n credu bod dirwy amhenodol yn gywir. Dylai pob un achos cael ei ystyried yn unigol yn ddibynnol ar beth sydd wedi digwydd.
"Ond dwi yn credu y dylai isafswm gael ei osod er mwyn dangos bod y drosedd yn cael ei gymryd o ddifrif.
"Mae gan berchnogion cyfrifoldeb dros eu hanifeiliaid, er dwi yn gwerthfawrogi bod nifer yr ymosodiadau fel hyn gan berchnogion anghyfrifol yn cynrychioli nifer fechan o berchnogion cŵn.
"Dwi'n cytuno gyda'r pwerau newydd, ond mae angen mynd ymhellach.
"Roeddem wedi colli defaid gwerth miloedd o bunnoedd, ond mae'n teimlo fel mai ni oedd yn cael ein cosbi ac nid perchennog y cŵn."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU (Defra) am eu hymateb i sylwadau Liz Nutting.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) eu bod hefyd yn galw am fwy o ddeddfwriaeth, gan gynnwys cadw cŵn ar dennyn bob amser ar dir fferm.
“Mae’r newidiadau hyn, sy’n dilyn blynyddoedd o lobïo parhaus, yn gam enfawr ymlaen. Maent yn cryfhau gallu’r heddlu a’r system gyfiawnder i osod cosbau cryfach - boed yn ariannol neu’n gyfreithiol - gan hefyd annog perchnogaeth fwy cyfrifol o gŵn.
"Fodd bynnag, mae UAC yn parhau i alw am gamau deddfwriaethol pellach, gan gynnwys gofyniad cyfreithiol i gadw cŵn ar dennyn bob amser ar dir fferm.
"Byddai hyn yn gam pellach tuag at hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol, ac o gymorth wrth atal ymosodiadau niweidiol gan gŵn ar dda byw – gan felly osgoi colledion ariannol a loes emosiynol sylweddol i’n ffermwyr a pherchnogion cŵn,” meddai llefarydd ar ran yr undeb.
'Gwahanol'
Yn ôl ystadegau Heddlu Dyfed Powys, roedd o leiaf 60 o ymosodiadau gan gŵn ar stoc yn 2025. Mae ystadegau Heddlu'r Gogledd yn dangos bod yna 90 o ymosodiadau tebyg wedi bod yn ardal y llu yn ystod yr un flwyddyn.
Roedd yna golledion stoc gwerth £2 miliwn ar draws y Deyrnas Unedig y llynedd yn dilyn ymosodiadau gan gŵn, yn ôl undeb yr NFU.
Wrth i'r pwerau newydd ddod i rym bydd swyddogion yr heddlu'n gallu gwneud cais am warantau i fynd i mewn i eiddo. Byddant yn gallu gwneud hyn lle mae sail resymol i gredu bod ci sy’n gysylltiedig â throsedd yno, gan gryfhau eu gallu i gasglu tystiolaeth a chefnogi erlyniadau.
Mae Liz Nutting yn credu y byddai'r canlyniad yn ei hachos hi wedi bod yn "hollol wahanol" pe bai'r pwerau hyn mewn grym pan gafodd ei defaid eu lladd.
"Mae llawer o'r pwerau sydd yn dod i rym nawr wedi gwneud gwahaniaeth mawr, yn enwedig yr elfen tystiolaeth fforensig," meddai.
"Fe fyddai wedi bod yn stori hollol wahanol yn ein hachos ni, achos roedd mor amlwg bod y cŵn yn gyfrifol.
"Ond nid oedd gennym y dystiolaeth a fyddai wedi bod o gymorth i'r ynadon ddeall difrifoldeb y sefyllfa."
Mae'r Rhingyll Iwan Owen yn gweithio gyda thîm troseddau cefn gwlad Heddlu'r Gogledd. Mae'n dweud eu bod nhw eisoes yn derbyn hyfforddiant ar ddefnyddio'r citiau DNA newydd.
“Ma' risg i berchnogion cŵn sy’n flêr hefo’u cŵn, ma' wedi cynyddu’n ofnadwy a ma' nhw mynd i golli eu cŵn, ma’r pwerau efo ni rŵan," meddai wrth raglen Ffermio ar S4C.
“Mae’r elfen o risg wedi cynyddu’n ofnadwy, ac wrth gwrs ma’ ‘na fwy o siawns i brofi mai eu cŵn nhw sy’ ‘di gneud.
“‘Dan ni wedi cael pecynnau i gymryd y DNA, ‘dan ni ‘di dechra' hyfforddi sut i gymryd y DNA.
“Wrth gwrs mae’r gyfraith yna ‘wan, felly ‘dan ni’n barod i fynd sydd yn beth da.”
Ychwanegodd Liz Nutting ei bod yn falch o glywed bod y camau ymarferol yn cael eu gwneud er mwyn gweithredu'r gyfraith newydd.
"Dwi mor falch o glywed bod hwn yn digwydd a'u bod yn dod o hyd i'r adnoddau i'w wneud, oherwydd yn amlwg mae hyfforddi swyddogion mewn maes newydd yn mynd i gostio.
"Ond dwi'n falch iawn eu bod wedi cydnabod pwysigrwydd ariannu hyn, oherwydd mae wir angen hyn.
"Fe fyddai wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ni."