Capten Cymru Aaron Ramsey heb ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau ail-gyfle Cwpan y Byd
Dyw capten Cymru Aaron Ramsey heb ei gynnwys wrth i Craig Bellamy gyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gemau ail-gyfle Cwpan y Byd 2026.
Bydd Cymru yn wynebu Bosnia a Herzegovina yng Nghaerdydd ar 26 Mawrth, cyn wynebu'r Eidal neu Ogledd Iwerddon yn y rownd derfynol ar 31 Mawrth, os yw Cymru’n fuddugol.
Mae Ramsey yn un o sawl chwaraewr allweddol sydd heb ei gynnwys yn y garfan, gyda Ben Davies, Kieffer Moore a Chris Mepham yn colli allan o ganlyniad i anafiadau.
Nid yw Ramsey wedi chwarae ers gadael ei gyn glwb Pumas, ym Mecsico, fis Rhagfyr. Dyw e heb chwarae dros Gymru ers mis Medi 2024.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2033854850522403135
Mae golwr Wrecsam Danny Ward ac asgellwr Rangers Rabbi Matondo yn dychwelyd i garfan Cymru am y tro cyntaf y tymor hwn.
Roedd rhai cefnogwyr wedi gobeithio y byddai'r yr amddiffynnwr Ash Phillips yn cael ei gynnwys yn y garfan.
Mae'r amddiffynnwr, sydd ar fenthyg i Stoke City o Tottenham Hotspur, yn gymwys i chwarae dros Gymru gan fod ei fam yn Gymraes, ac mae wedi chwarae i dimau ieuenctid Cymru. Ond nid yw'n rhan o'r garfan y tro hwn.
Bydd enillwyr y gemau ail-gyfle yn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd yng ngogledd America yn yr haf.
Fe fydd Cymru, pe bai nhw'n ennill, yn yr un grŵp â Chanada, Y Swistir a Qatar.
Carfan Cymru: Karl Darlow (Leeds United), Danny Ward (Wrecsam), Adam Davies (Sheffield United), Tom King (Everton), Jay Dasilva (Coventry City), Rhys Norrington-Davies (Queens Park Rangers- ar fenthyg o Sheffield United), Dylan Lawlor (Caerdydd), Ben Cabango (Abertawe), Joe Rodon (Leeds United), Neco Williams (Nottingham Forest), Ronan Kpakio (Caerdydd), Ethan Ampadu (Leeds United), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Jordan James (Caerlŷr - ar fenthyg o Stade Rennais), Liam Cullen (Abertawe), Joel Colwill (Caerdydd), Harry Wilson (Fulham), David Brooks (Bournemouth), Nathan Broadhead (Wrecsam), Brennan Johnson (Crystal Palace), Sorba Thomas (Stoke City), Mark Harris (Rhydychen), Lewis Koumas (Hull City - ar fenthyg o Lerpwl), Dan James (Leeds United), Rabbi Matondo (Rangers), Rubin Colwill (Caerdydd).