Golwg gyntaf ar amgueddfa bêl-droed genedlaethol newydd

Amgueddfa bêl-droed

Wrth i Gymru baratoi i geisio gwneud hanes ym myd pêl-droed dros yr haf, mae cefnogwyr wedi cael cipolwg cyntaf ar amgueddfa bêl-droed genedlaethol newydd.

Mae disgwyl i Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn Wrecsam agor i'r cyhoedd yn haf 2026.

Mae'r amgueddfa newydd tua hanner milltir o'r Cae Ras, cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam a Gwesty'r Wynnstay Arms lle sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1876.

Image
Amgueddfa bêl-droed

Pan fydd yn agor, y gobaith yw y bydd yn drysorfa o straeon ac arteffactau a bydd yn cynnwys elfennau rhyngweithiol i'r teulu cyfan.

Bydd yna arddangosfa ryngweithiol o'r enw Goliau Gwych Cymru, lle gall pobl wylio a phleidleisio dros eu hoff gôl.

Yno hefyd bydd Y Llinell Amser, oriel lawn o wrthrychau o 1876 hyd heddiw sy'n adrodd hanes y timau cenedlaethol.

Mae’r amgueddfa’n cynnwys gwrthrychau gan gynnwys taflen tîm wreiddiol Cymru yn erbyn Yr Alban o 1876 (gêm ryngwladol gyntaf Cymru), a hefyd cap a chrys y pêl-droediwr Wyn Davies, a enillodd 34 cap dros Gymru ac a fu farw y llynedd.

Image
Amgueddfa bêl-droed

Roedd Gweinidog Diwylliant Cymru, Jack Sargeant, ymysg yr ymwelwyr cyntaf ddydd Sadwrn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grantiau gwerth bron i £6 miliwn tuag at yr amgueddfa, a oedd yn “ymrwymiad mawr”, meddai’r gweinidog.

“Mae wedi bod yn wych gweld y ffilmiau a chynnwys yr orielau a chlywed faint y mae cymunedau ledled Cymru wedi bod yn rhan o waith creu'r amgueddfa, gyda gofal gwirioneddol i sicrhau bod y casgliadau a'r arddangosfeydd yn adlewyrchu ehangder diwylliannau a hanesion pêl-droed Cymru,” meddai.

Image
Jack Sargeant
Gweinidog Diwylliant Cymru, Jack Sargeant

Ychwanegodd: “Rydyn ni'n cydnabod y rôl allweddol y mae amgueddfeydd yn ei chwarae mewn cymunedau a diwylliant ledled Cymru.

“Ni ddylid tanbrisio eu cyfraniad o ran iechyd a llesiant, eu heffaith economaidd fel atyniadau i ymwelwyr, ac fel adnoddau i ysgolion a dysgu gydol oes."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.