Pryder y bydd tŵr uchaf Cymru yn taflu cysgod ar weddill Caerdydd

Twr Caerdydd

Mae arbenigwr blaenllaw wedi codi pryderon y bydd tŵr newydd 50 llawr yng Nghaerdydd yn taflu cysgod ar weddill trigolion y brifddinas.

Fe wnaeth Cyngor Caerdydd gymeradwyo'r gwaith o adeiladu’r hyn a fyddai yn adeilad uchaf Cymru, a’r ail uchaf yn y DU y tu allan i Lundain, yn sgwâr canolog Caerdydd, ddydd Iau.

Pe bai’n cael ei adeiladu, byddai’r tŵr yn 178m o uchder, yn uwch na Thŵr Meridian yn Abertawe sy’n 107m.

Ond dywedodd Dr Susan Roaf, athro peirianneg bensaernïol ym Mhrifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin, fod ganddi bryderon am ei ddyluniad.

Dywedodd wrth y Gwasanaeth Democratiaeth Leol, y byddai yn cuddio’r haul i rai o drigolion eraill y ddinas.

“Bydd llawer o bobl Caerdydd sy’n byw yng nghysgod y tŵr yn colli golau haul yn y gaeaf, golau sy’n bwysig ar gyfer cynhesrwydd, llesiant a chynhyrchu trydan solar,” meddai.

Roedd ganddi hefyd bryderon am gostau ynni uchel adeilad mor dal, meddai.

 “Mae mwy o ynni’n cael ei ddefnyddio mewn adeiladau uchel oherwydd po uchaf yw’r lloriau, po fwyaf agored ydyn nhw i wynt a haul, a’r mwyaf yw’r angen am wresogi ac oeri dros y tymhorau i wneud iawn am eu hamlygiad cynyddol i’r elfennau,” meddai.

“Bydd pobl sy’n byw’n agos at y llawr gwaelod yn talu cost ychwanegol ynni drwy filiau wedi’u bwndelu ar gyfer y rhai sy’n byw ar y lloriau uwch hefyd, yn ogystal â’r taliadau gwasanaeth enfawr i gynnal yr adeilad rhy fawr hwn.”

Dywedodd Dr Susan Roaf bod ganddi hefyd bryderon am orboethi, cludo gwastraff domestig o’r lloriau uchaf, a hefyd yr hyn a fyddai yn digwydd pe bai yna dân.

“Mae dwy set o risiau tân ar gyfer hyd at 1,000 o bobl, gyda pholisi ‘Aros yn eich lle’ sy’n gofyn i breswylwyr aros yn eu fflatiau nes eu bod yn cael eu hachub pan fydd tân yn digwydd,” meddai.

Ymateb

Dywedodd Ed Williams, Prif Weithredwr BlueCastle Capital, y cwmni sy’n datblygu’r adeilad uchel, wrth yr LDRS ei fod wedi’i ddatblygu “drwy broses fanwl o ddylunio a chynllunio dros gyfnod estynedig”.

 “Roedd asesiadau technegol yn ymwneud â diogelwch tân, rheoli gwastraff, gorboethi, golau dydd a pherfformiad amgylcheddol yn rhan o’r cais, a chafodd y rhain eu hadolygu’n drylwyr fel rhan o’r broses gynllunio cyn rhoi caniatâd,” meddai.

“Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, bydd y dyluniad yn parhau i gael ei fireinio yn ystod cam nesaf y dylunio manwl, gyda phob agwedd yn gorfod cydymffurfio â’r safonau cynllunio, diogelwch adeiladau a rheoleiddio perthnasol.

“Rydym yn credu y bydd y cynllun yn darparu cartrefi newydd o ansawdd uchel mewn lleoliad canolog cynaliadwy iawn yn y ddinas ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at adfywio parhaus Caerdydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.