Cwmni oedd yn trefnu rasys mynydd yng Nghymru wedi cau

Ourea Events Cau

Mae Cwmni Ourea Events, a oedd yn trefnu rasys rhedeg ar fynyddoedd Cymru a gweddill Prydain, wedi dweud eu bod nhw'n dod i ben.

Daeth y cyhoeddiad ar ddydd Gwener, 13 Mawrth gan olygu fod eu holl ddigwyddiadau yn 2026 wedi eu canslo gan gynnwys ‘Ras Cefn y Ddraig' a 'Skyline Scotland,' medden nhw.

Yn ôl y cwmni, mae hyn yn dilyn lleihad yn nifer eu cystadleuwyr o dramor yn sgil Brexit ynghyd â phwysau ariannol yn sgil Covid a ganslodd eu digwyddiadau am 18 mis.

Dywedodd Cyfarwyddwr Digwyddiadau Ourea Events, Sane Ohly: “Fel nifer o gwmnïoedd digwyddiadau, doedden ni ddim yn gymwys am grantiau Covid.

"Gadawodd hyn Ourea gyda dyled sylweddol yn sgil Covid a sefyllfa ariannol gwan."

Yn eu datganiad, dywedodd y cwmni fod Brexit wedi arwain at ostyngiad mewn cystadleuwyr o dramor wrth iddynt esbonio fod cystadleuwyr rhyngwladol.

“Yn anffodus, mae’r tuedd ar gyfer 2026 yn awgrymu byddai ein sefyllfa ariannol yn gwaethygu ymhellach dros y flwyddyn hon," medden nhw.

“Tra bod y newyddion yma yn drist, mawr obeithiaf gall y broses yma ganiatáu i’r digwyddiadau redeg eu hunain mewn rhyw ffordd yn y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.