Yr heddlu yn apelio am yrrwr wedi i wrthdrawiad beryglu plant ysgol

gwrthdrawiad cei connah

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd a Stryd Pen y Llan, Cei Connah.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r stryd am tua 15:30 ddydd Gwener, 13 Mawrth ond roedd gyrrwr cerbyd Land Rover wedi ffoi cyn iddynt gyrraedd y safle.

Dywedodd yr heddlu fod y Land Rover sydd â’i olwynion ar ben y car sydd wedi ei barcio ar Stryd Pen y Llan, wedi ei ddwyn.

"Cyn i'r holl jôcs 'Allwch chi ddim parcio yn fan 'na' ein cyrraedd ni, mae cerbydau pobl ddiniwed wedi eu dinistrio gan hyn," medden nhw.

"Fe digwyddodd hyn ar ddiwedd y diwrnod ysgol pan oedd nifer o blant yn cerdded adref."

Llun gan: Heddlu Gogledd Cymru 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.