Actores o Aberystwyth yn perfformio yn y National Theatre am y tro cyntaf

Gwyneth Keyworth

Mae actores o Aberystwyth yn dweud bod cael ei rôl gyntaf ar lwyfan y National Theatre yn Llundain yn "freuddwyd pur".

Ers graddio o Goleg Drama RADA yn 2014, mae Gwyneth Keyworth, 35 oed, wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau ar y teledu a'r llwyfan.

Mae Keyworth yn fwyaf adnabyddus am ei rolau ar raglenni teledu, gan gynnwys Death Valley, Misfits a Lost Boys & Fairies.

Ond yn ddiweddar mae hi wedi bod yn actio ar y llwyfan yng nghynyrchiadau To Kill a Mockingbird a Twelfth Night yn theatrau Llundain.

Erbyn hyn, mae Keyworth yn rhan o gast y sioe Summer Folk y National Theatre ei rôl gyntaf gyda'r theatr fyd-enwog.

'Breuddwyd pur'

"Mae'n freuddwyd pur! Literally ers i fi fod yn actor, fi 'di bod eisiau gweithio yma," meddai ar raglen Heno ar S4C.

Mae Summer Folk yn ddrama sydd wedi'i lleoli yn Rwsia ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

"Mae fe'n dilyn grŵp o intelligentsia middle class, ffordd gora fi'n disgrifio fe yw fatha The White Lotus - mae'r pobl 'ma'n dod o ddosbarth specific o ran class ac maen nhw'n gwthio ffwrdd delio gyda'r byd go iawn," meddai Keyworth.

"Dwi'n chwarae Olga, mae hi'n fam i bedwar o blant, mae hi 'di blino. Mae'n cwyno lot, mae 'da hi reswm i gwyno ond mae hi'n gallu bod bach yn ddramatig."

Ychwanegodd: "Mae 'na nifer o bobl fi mor hapus i weithio 'da am y tro cyntaf 0 Alex Lawther, Doon Mackichan, Sophie Rundle."

Cafodd ail gyfres o raglen Death Valley, sydd wedi ei lleoli yng Nghymru, ei ffilmio'r llynedd a bydd yn cael ei darlledu eleni.

Wrth gyfeirio at y profiad o ffilmio'r gyfres, dywedodd: "Roedd yn hyfryd bod nôl ac mae gweithio yng Nghymru yn grêt.

"Nes i rili mwynhau ffilmio blwyddyn diwethaf, ond ni wedi gwella fe blwyddyn yma a fi'n rili excited i'r gynulleidfa gael gweld e."

Enillodd Keyworth Wobr RTS Cymru am y Perfformiad Drama Gorau am ei rôl fel Becky yn Lost Boys & Fairies

Cafodd ei henwebu hefyd am yr Actores Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2025 am yr un rôl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.