Newyddion S4C

Plentyn ifanc ymysg y meirw wedi llifogydd Storm Ida

Mirror 02/09/2021

Plentyn ifanc ymysg y meirw wedi llifogydd Storm Ida

Mae o leiaf naw o bobl, gan gynnwys bachgen bach dwy oed, wedi marw ar ôl i Efrog Newydd a New Jersey gael eu taro gan lifogydd eithafol.

Mae stad o argyfwng wedi ei gyhoeddi yn y taleithiau wrth i Storm Ida achosi glaw trwm.

Mae pobl wedi bod yn rhannu clipiau ar y cyfryngau cymdeithasol o ddŵr yn llifo’n gyflym i mewn i orsafoedd trên tanddaearol, gyda lluniau o geir yn cael eu llyncu gan lifogydd ar hyd strydoedd hefyd yn cael eu rhannu.

Yn ôl cangen Efrog Newydd o'r Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol, dyma’r tro cyntaf i rybudd argyfwng llifogydd gael ei gyhoeddi ar gyfer dinas Efrog Newydd, meddai'r Mirror.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.