Cyhoeddi enillwyr cyntaf Gwobr Goffa Leah Owen
Mae mudiad iaith wedi cyhoeddi enillwyr cyntaf cystadleuaeth newydd i bobl ifanc er cof am Leah Owen.
Ym mis Tachwedd cyflwynodd Dyfodol i’r Iaith gystadleuaeth newydd er cof am Leah Owen a'i "chyfraniad aruthrol" at ddiwylliant Cymru.
Bu farw'r gantores, arweinydd a hyfforddwr canu yn 70 oed ym mis Ionawr 2024 yn dilyn salwch. Roedd hefyd yn artist recordio a chyfansoddwr.
Dywedodd ei gŵr, Eifion Lloyd Jones, sydd hefyd yn is-gadeirydd Dyfodol i’r Iaith: "Bu Leah’n weithredol dros y Gymraeg o ddyddiau cynnar ei hymgyrchu a’i chanu trwy flynyddoedd y cyfansoddi a hyfforddi ei chorau a channoedd o bobl ifanc."
Fel rhan o Wobr Goffa Leah Owen, cafodd dwy gystadleuaeth eu lansio: un ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd ym mlwyddyn 10-11, a'r llall i rai yn y chweched dosbarth neu i fyfyrwyr mewn Colegau Addysg Bellach hyd at 19 oed.
Roedd gofyn i’r disgyblion a’r myfyrwyr drafod eu defnydd o’r Gymraeg, y rhwystrau a’r cyfleoedd i’w defnyddio ar ffurf fideo.
Yn beirniadu oedd Eifion Lloyd Jones, y cyn athrawes uwchradd Elaine Edwards, a'r darlithydd Dr Huw Griffiths o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Dywedodd y beirniaid eu bod wedi derbyn 28 ymgais o 12 ysgol neu goleg gwahanol – 18 yn yr oed iau, a 10 yn yr oed hŷn.
"Yr argraff gryfaf yw balchder ein hieuenctid yn y Gymraeg - eu hymwybyddiaeth o’r fraint o’i chael a’r cyfleoedd i’w defnyddio," meddai'r beirniaid.
"Ond hefyd eu bod yn ymwybodol iawn o’r rhwystrau sy’n eu hwynebu wrth geisio defnyddio’r Gymraeg: rhwystrau personol, fel eu diffyg hyder eu hunain ar adegau, a rhwystrau cymdeithasol, fel amharodrwydd cyfoedion i siarad Cymraeg, diffygion adnoddau ysgol, a phrinder Cymraeg yn y gymdeithas ac ar y cyfryngau cymdeithasol."
Categori iau
Yr enillydd yn y categori oedran blwyddyn 10-11 oedd Nanw, Lleucu ac Elliot o Ysgol Brynrefail yng Ngwynedd.
"Yn sicr, dyma’r mwya’ creadigol a bywiog, ond roeddem yn ceisio anwybyddu’r cyffro hwnnw er mwyn canolbwyntio ar y cynnwys," meddai'r beirniaid.
"Y cynnwys hwnnw yn cwmpasu’r holl agweddau perthnasol: a. Cyfleoedd – ysgol, chwaraeon, dathliadau, cerddoriaeth, cinio, dosbarth, pentre’ Cymreiciaf; b. Rhwystrau – ffrindiau Cymraeg yn dewis siarad Saesneg, adnoddau ysgol ddim cystal, llai o dechnoleg ac o safon is, apiau’r ffôn yn brin, dim gemau ar-lein, prinder rhaglenni S4C i’r ifanc, ac Alexa unieithog!"
Yn gydradd ail oedd Celyn, Ffion a Caitlin o Ysgol Gymraeg Cwm Rhymni a Callie-Beth, Esmee a Bethan o Ysgol Garth Olwg.
Yn gydradd drydydd oedd Megan, Efa a Cari o Ysgol Glan Clwyd a Lleucu a Lily o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.
Categori hŷn
Yn fuddugol yn y categori hŷn oedd Rhys, Hari a Maiwenn o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn Abertawe.
"Credent fod Eisteddfod yr Urdd yn llwyddo i ddenu mwy at y Gymraeg. Roedd hi’n anodd defnyddio’r Gymraeg mewn chwaraeon ac roedd angen mwy o arwyddion Cymraeg yn y gampfa a theledu’r ganolfan hamdden i ddangos S4C," meddai'r beirniaid.
"Mae angen cyfle i fwy o oedolion ddysgu a defnyddio’r Gymraeg. Gellid cael arwyddion a bwydlen siopau yn ddwyieithog er mwyn creu cyswllt gyda’r Gymraeg a dysgu geiriau Cymraeg. Credent y dylai ysgolion Saesneg ddysgu mwy o Gymraeg ac y dylai pawb allu dweud ‘Bore Da’ a ‘Diolch’.
"Teimlent fod y Gymraeg yn werthfawr ar eu CV ac ar gyfer swyddi a bod cyflogau gwell o fod yn ddwyieithog."
Yn gydradd ail oedd Connie a Ciara o Goleg Caerdydd a’r Fro, a Manon a Martha o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.
Yn gydradd drydydd wedyn oedd Beca o Ysgol Glan Clwyd a Leisa, Richard a Sivenna o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.
Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr a thystysgrif ar raglen Heno ar S4C nos Lun.
Caiff enillwyr y wobr gyntaf £100, yr ail £60 a’r trydydd £40.
