Arestio tri dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i ddyn farw yn Nhredegar
Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i ddyn 36 oed farw yn Nhredegar.
Dywedodd Heddlu Gwent fod ymholiadau cynnar yn awgrymu fod y dyn 36 oed o Dredegar yn rhan o ffrae gorfforol ryw bryd rhwng nos Wener ac oriau mân fore Sadwrn.
Mae tri dyn, sydd yn 18, 19 a 51 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac maent yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae aelodau teulu'r dyn 36 oed yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Robin Fuller: "Rydym yng nghyfnodau cynnar yr ymchwiliad hwn, ac rwy'n estyn fy nghydymdeimladau at deulu'r dioddefwr.
"Rydym yn gweithio i sefydlu'r amgylchiadau llawn ac mae gennym ddiddordeb yn benodol mewn siarad ag unrhyw un a oedd yn ardal Stryd y Castell, gyferbyn â Gwesty'r Castell a Jem's Jewellery, rhwng 01:00 a 02:00 fore Sadwrn.
"Os oes gennych chi unrhyw ddeunydd dashcam, byddai hyn hefyd yn gallu helpu ein hymchwiliad felly plis cysylltwch.
"Mae ein swyddogion yn parhau yn ardal Tredegar wrth iddynt barhau i gasglu tystiolaeth ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu wybodaeth, yna siaradwch â nhw."
Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600071626.