Plaid annibyniaeth a sefydlwyd gan Alex Salmond yn cyhoeddi y bydd yn dod i ben
Mae plaid annibyniaeth a sefydlwyd gan gyn Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi cyhoeddi y bydd yn dod i ben.
Dywedodd plaid Alba, a gafodd ei lansio gan Alex Salmond yn 2021, y byddant yn dad-gofrestru a ddim yn cyflwyno ymgeiswyr ar gyfer etholiad Holyrood ym mis Mai.
Daw hyn wedi i dîm arweinyddiaeth y blaid gyfarfod gyda'r Comisiwn Etholiadol gan gael eu cynghori yn sgil eu sefyllfa ariannol fod yn rhaid i'r blaid naill ai ddadgofrestru'n wirfoddol, neu wynebu dadgofrestru statudol.
Fe wnaeth aelodau o Grŵp Continuation Alba alw fis diwethaf ar yr arweinydd Kenny MacAskill i ymddiswyddo os nad oedd yn fodlon i'r blaid barhau nes etholiadau Senedd yr Alban.
Ar ôl cyfarfod y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC) ddydd Sul, dywedodd Mr MacAskill fod y blaid "mewn sefyllfa ariannol ddifrifol".
Ychwanegodd: "Hoffwn ddatgan fy niolch yn ffurfiol i’r aelodau am eu hymdrechion dros ein plaid a’n hachos. Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda nhw. Gallwn fod yn falch o’r hyn yr oeddem yn ceisio’i gyflawni a hefyd y gefnogaeth gennym ni i’n sylfaenydd yn ei amser o angen.
"Ni fydd y freuddwyd fyth yn marw, mae pleidiau fel unigolion yn marw, ond mae'r achos yn parhau am byth."
Bu farw Alex Salmond yn 69 oed o drawiad ar y galon mewn cynhadledd yng Ngogledd Macedonia ym mis Hydref 2024.
Arweiniodd Plaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP rhwng 1990 a 2000, ac yna eto rhwng 2004 a 2014. Roedd yn Brif Weinidog yr Alban rhwng 2007 a 2014.