Mam i ferch Ian Huntley yn ‘falch' na fydd rhaid iddi 'fyw mewn ofn’

Ian Huntley

Mae mam i ferch Ian Huntley wedi dweud ei bod yn “falch na fydd rhaid i ni fyw mewn ofn” mwyach wedi ei farwolaeth yn 52 oed.

Doedd merch Ian Huntley, Samantha Bryan, 27, erioed wedi cwrdd â’i thad ar ôl i’w mam Katie Bryan, 45, ffoi o berthynas dreisgar ag o pan oedd hi yn ei harddegau.

Bu farw Ian Huntley ddydd Sadwrn ar ôl dioddef ymosodiad treisgar yng ngharchar HMP Frankland lle’r oedd yn cael ei gadw yn garcharor ar ôl llofruddio Holly Wells a Jessica Chapman yn 2002.

Dywedodd Katie Bryan ei bod wedi ystyried mynd i’w weld yn yr ysbyty yn ystod y dyddiau diwethaf i “wneud yn siŵr mai ef oedd o” gan ei bod yn ofni “bod hwn yn gynllwyn cymhleth er mwyn rhoi hunaniaeth newydd iddo a’i amddiffyn”.

Ychwanegodd ei bod hi’n falch na fydd Huntley byth yn cwrdd â'u merch, meddai, gan ychwanegu: “Roeddwn i'n ofni y byddai'n dod i chwilio amdanom ni un diwrnod - y ddwy ohonom. 

“Nawr does dim rhaid i mi fyw mewn ofn mwyach.”

Dywedodd ei ferch Samantha Bryan, sydd bellach yn byw yn Cleethorpes yn Swydd Lincoln, ei bod hi eisiau gweld ei lwch yn “cael ei fflysio i lawr y tŷ bach”.

Roedd hi’n “falch” o gael gwybod bod peiriant cynnal bywyd ei thad wedi ei ddiffodd, meddai.

"Ni ddylai gael urddas angladd a bedd,” meddai. “Fydda i ddim yn mynd. 

“Mae angladd yn ddibwrpas i ddyn fel fo.”

Ymchwiliad

Nid yw Heddlu Durham wedi enwi’r sawl sydd dan amheuaeth, ond ar ddiwrnod yr ymosodiad dywedodd y llu bod dyn yn ei 40au yn y ddalfa.

Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd Heddlu Durham: "Mae dyn a ymosodwyd arno yn HMP Frankland yn Durham yr wythnos diwethaf wedi marw yn yr ysbyty'r bore yma.

"Fe gafodd Ian Huntley, 52, ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad yn y gweithdy ar fore Iau 26 Chwefror.

"Mae ymchwiliad yr heddlu i amgylchiadau’r digwyddiad yn parhau."

Fe lofruddiodd Huntley Holly a Jessica ar ôl iddyn nhw adael barbeciw teuluol i fynd i brynu pethau melys yn Soham, Sir Gaergrawnt, ar 4 Awst 2002. 

Fe wnaeth o adael eu cyrff mewn ffos.

Roedd dedfryd oes Huntley yn argymell y dylai dreulio o leiaf 40 mlynedd yn y carchar am lofruddiaethau Soham.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.