Lansio ap dwyieithog i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu
Mae ap newydd wedi ei lansio i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu yng Nghymru.
Fe fydd yr ap ffôn symudol 'Helpa Fi i Stopio' gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cymorth personol a llwybr ychwanegol i bobl sydd eisiau rhoi'r gorau i ysmygu.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, ysmygu yw'r prif achos marwolaethau a chlefydau y gellir eu hatal ymhlith oedolion sydd yn hŷn na 35 oed yng Nghymru.
Mae'n achosi 3,845 o farwolaethau ar gyfartaledd.
Er bod cyfraddau ysmygu yn parhau i ostwng, dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod nifer o bobl yn ceisio rhoi'r gorau i ysmygu heb gymorth.
Dywedodd Chris Emmerson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae’r ap newydd hwn yn rhoi teclyn newydd pwerus i bobl yng Nghymru i’w helpu i roi’r gorau i ysmygu.
"Rydyn ni'n gwybod bod llawer o ysmygwyr eisiau rhoi'r gorau iddi, ond mae llawer yn ceisio ar eu pen eu hunain heb gymorth."
Fe fydd yr ap yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Dim Ysgmygu ddydd Mercher 11 Mawrth, sydd yn ddiwrnod cenedlaethol i annog ac ysgogi pobl i gymryd y cam cyntaf tuag at fywyd di-fwg.
Fe fydd yr ap yn cynnig cymorth ymddygiad ar sail tystiolaeth y gall pobl ei ddefnyddio 24 awr y dydd, a chyfeirio defnyddwyr at wasanaethau arbenigol.
Bydd defnyddwyr hefyd yn gallu gosod dyddiad rhoi'r gorau i ysmygu, cofnodi a ydynt yn ysmygu a phryd, a chofnodi cymhellion.
'Teclyn newydd pwerus'
Bydd modd defnyddio cyfrifiannell sy'n dangos yr arian sydd wedi ei arbed ers rhoi'r gorau i ysmygu ar yr ap hefyd.
Ychwanegodd Jim McManus, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae’r ap yn ategu ein gwasanaethau Helpa Fi i Stopio presennol ac yn darparu man cychwyn syml i unrhyw un sy’n ystyried rhoi’r gorau iddi. P'un a yw rhywun eisiau rhoi'r gorau iddi heddiw, yr wythnos nesaf neu ddim ond yn archwilio eu hopsiynau, mae'r ap yn eu tywys bob cam o'r ffordd.
"Os bydd angen cymorth ychwanegol ar ddefnyddwyr, mae'r ap yn ei gwneud hi'n hawdd cysylltu'n uniongyrchol â'n cynghorwyr rhoi'r gorau i ysmygu ymroddedig."
