Beirniadu Kemi Badenoch am ddweud bod milwyr y DU ‘yn hongian o gwmpas’
Mae Kemi Badenoch wedi’i beirniadu am ddweud bod milwyr Prydain yn “hongian o gwmpas” yn y Dwyrain Canol.
Gofynnwyd wrth arweinydd y Ceidwadwyr ar BBC Breakfast ddydd Gwener a oedd hi’n credu y dylai Prydain ymuno ag Israel ac America wrth danio taflegrau at Iran.
“Beth arall mae ein hawyrennau yn ei wneud - dim ond hongian o gwmpas fan’na?” gofynnodd.
“Mae angen iddyn nhw allu gweld pwy sy’n ymosod arnon ni a’u hatal nhw rhag tanio at filwyr Prydeinig neu hyd yn oed bobl Brydeinig mewn gwestai.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, John Healey, fod y sylw yn “sarhau dynion a menywod ein lluoedd arfog” ac y dylai Kemi Badenoch ymddiheuro.
Mae arolygon barn wedi awgrymu bod pobl Prydain ar y cyfan eisiau aros ar ymylon y rhyfel, gan wrthwynebu ymosod ar Iran o 49% i 28% yn ôl arolwg YouGov.
Wrth siarad yng nghynhadledd wanwyn y Blaid Geidwadol yn Harrogate ddydd Sadwrn, dywedodd Mrs Badenoch fod y Prif Weinidog “yn eistedd ar y ffens” yn ei agwedd at y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Dywedodd arweinydd y Torïaid fod yr isetholiad yr wythnos diwethaf, a enillwyd gan y Gwyrddion, wedi “codi ofn” ar y Blaid Lafur.
“Mae Keir Starmer yn rhy ofnus erbyn hyn i ymyrryd dramor rhag ofn iddo gynhyrfu rhan fach iawn o’r etholwyr hynny,” meddai.
“Mae pawb yn cofio camgymeriadau Rhyfel Irac, a dydy neb call yn awgrymu y dylen ni ollwng bomiau heb feddwl ddwywaith.
“Ond treuliodd Keir Starmer ddyddiau yn ymgynghori â chyfreithwyr, yn ceisio dod o hyd i’r dewrder i ddweud ochr pwy yr oedd arni.
“Roedd gan Ganada ac Awstralia wedi gwneud hynny ar unwaith ac yn ddiamwys.
“Hyd yn oed nawr, mae ein Prif Weinidog yn eistedd ar y ffens. Rydyn ni yn y rhyfel hwn, os yw Keir Starmer yn hoffi hynny ai peidio.”
Mae Mrs Badenoch wedi galw ar y Llywodraeth i awdurdodi’r RAF i daro safleoedd lansio taflegrau Iran.
Fe awgrymodd y Dirprwy Brif Weinidog, David Lammy, ddydd Gwener y byddai hynny yn bosib.