Yr etholiad yn ‘gyfle i achub y GIG’ meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol wrth gynnal eu cynhadledd

Y Democratiaid Rhyddfrydol

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud bod etholiad y Senedd yn “gyfle i achub y Gwasanaeth Iechyd Gwladol” wrth iddyn nhw gynnal eu cynhadledd yng Nghaerdydd.

Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds, mai dim ond 62 diwrnod sydd ar ôl i ymgyrchu, ac anogodd aelodau i fynd â neges y blaid at bleidleiswyr ledled Cymru.

Mae’r blaid yn targedu Abertawe, Caerdydd, Powys a Cheredigion yn etholiadau’r Senedd, medden nhw.

“Ar ôl 26 mlynedd o lywodraeth Lafur, mae pobl ledled Cymru yn gallu gweld bod gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef,” meddai.

“Rhestrau aros y GIG [yng Nghymru] yw’r rhai hiraf yn unrhyw le yn y DU, ac mae cynghorau o dan bwysau cynyddol oherwydd bod gofal cymdeithasol dan bwysau mawr.

“Yr etholiad hwn yw ein cyfle i newid cyfeiriad ac achub ein GIG.

“Mae pob pleidlais i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn bleidlais i achub ein GIG a sicrhau’r newid y mae pobl ledled Cymru yn galw amdano.”

Fe wnaeth y blaid groesawu tri chynghorydd newydd ar drothwy'r gynhadledd.

Mae dau gynghorydd sy'n cynrychioli Uplands yn Abertawe, Sandra Joy ac Allan Jeffery, wedi ymuno â'r blaid ar ôl bod yn annibynnol.

Mae cynghorydd o Sir y Fflint, Fran Lister, hefyd wedi gadael Llafur i ymuno â'r Democratiaid Rhyddfrydol. 

Mae cynghorydd annibynnol arall ym Mhowys hefyd wedi ailymuno â'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.