Heddlu am wisgo fel rhedwyr cyffredin i wella diogelwch i fenywod
Fe fydd heddlu yn y gogledd yn gwisgo fel rhedwyr cyffredin er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad sy'n tarfu ar fenywod sy'n gwneud ymarfer corff.
Mae Tîm Plismona Cymdogaeth yn Sir Ddinbych wedi lansio Ymgyrch Cadence, sy'n canolbwyntio ar wella diogelwch i fenywod a merched.
Fel rhan o'r gwaith, mae swyddogion wedi bod mewn cyswllt â chlybiau rhedeg lleol yn ogystal â siarad yn uniongyrchol â rhedwyr er mwyn "deall eu profiadau, pryderon ac unrhyw leoliadau lle nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel, yn well."
Ychwanegodd y llu eu bod nhw hefyd yn bwriadu gwisgo dillad cyffredin a rhedeg mewn mannau poblogaidd er mwyn darganfod beth yw'r problemau yno.
Yn ôl y llu, bydd hyn yn eu helpu i ddeall yn well yr amgylchedd y mae rhedwyr yn ei brofi ac yn caniatáu iddynt nodi ac ymdrin ag unrhyw ymddygiad amheus.
Mae'r heddlu yn annog unhryw un â phryderon am fannau neu leoliadau penodol i gysylltu â nhw.