Cipolwg ar rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD rhwng Y Fflint a Dinas Bangor

Sgorio
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Dinas Bangor 1876

Dros y penwythnos bydd pedwar o glybiau’r gogledd yn cystadlu yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD.

Mae Caernarfon a’r Fflint o’r Cymru Premier JD wedi llwyddo i gyrraedd y pedwar olaf, ac mi fyddan nhw’n wynebu clybiau o’r adrannau is, gyda’r Cofis yn herio Y Rhyl 1879 o’r ail haen ddydd Sul, tra bydd y Sidanwyr yn wynebu Bangor 1876 o’r drydedd haen ddydd Sadwrn.

Bydd enillwyr gemau’r penwythnos yn sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD yn Rodney Parade, Casnewydd ar y 12fed o Ebrill, a bydd enillwyr y ffeinal yn hawlio tocyn i chwarae’n Ewrop y tymor nesaf.


Y Fflint (1) v Dinas Bangor 1876 (3) | Dydd Sadwrn – 12:45 
(Parc Maesdu, Llandudno)

O’r pedwar clwb sydd ar ôl yn y gystadleuaeth, Y Fflint yw’r unig rai sydd wedi codi Cwpan Cymru yn y gorffennol, ac hynny ‘nôl ym 1954.

Yn y 72 o flynyddoedd ers hynny, dyw’r Fflint heb lwyddo i fynd ymhellach na rownd yr wyth olaf... tan eleni.

Yn nhymor 1953/54 fe enillodd Y Fflint y rownd gynderfynol yn erbyn Caerdydd, cyn trechu Caer yn y rownd derfynol ar y Cae Ras.

Gyda’r Fflint yn wynebu’r clwb isaf ar ôl yn y gystadleuaeth, bydd Lee Fowler yn gobeithio rhoi ei enw yn y llyfrau hanes ac arwain y clwb i godi’r tlws am y tro cyntaf ers 1954.

Y Fflint yw’r unig glwb sydd heb ildio gôl yng Nghwpan Cymru y tymor hwn, a gyda’r Sidanwyr ar rediad o chwe gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, bydd yr hyder yn uchel yng ngharfan Lee Fowler.

Y daith hyd yma:

Y Fflint: Bow Street (0-3), Airbus UK (1-0), Pen-y-bont (0-0 cos), Bae Trearddur (3-0)

Dinas Bangor 1876: Mochdre (3-1), Conwy Swifts (0-12), Llanelwy (0-6), Cegidfa (cos 1-1), Treffynnon (2-1), Trefelin (2-0), Caerau Trelai (3-1)

Mae yna gyfoeth o hanes ac atgofion o lwyddiannau Cwpan Cymru ym Mangor gan i’r tlws gael ei godi ar wyth achlysur gan y Dinasyddion, ond gyda’r hen glwb gwreiddiol wedi ei ddiddymu, mae’r olynwyr bellach yn awyddus i efelychu campau’r clwb a fu.

Mae Dinas Bangor 1876 yn eistedd ar frig Cynghrair Ardal Gogledd Orllewin, a nhw yw’r clwb cyntaf o’r drydedd haen i gyrraedd y rownd gynderfynol ers i Treffynnon wneud hynny 12 mlynedd yn ôl.

Mae tîm Michael Johnston wedi chwarae 36 o gemau ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn gan ennill 33 o’r gemau rheiny a cholli dim ond unwaith (vs Llannefydd).

Dechreuodd taith Bangor yn y rownd ragbrofol gyntaf, ac ers hynny mae‘r Dinasyddion wedi trechu pedwar clwb o’r ail haen, sef Cegidfa, Treffynnon, Trefelin a Caerau trelai.

Ond hwn fydd y prawf anoddaf eto i Fangor, wrth iddyn nhw wynebu clwb o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf ers Tachwedd 2023.

Ac yn rhyfedd iawn, Y Fflint oedd y clwb diwethaf, a’r unig glwb o’r uwch gynghrair i wynebu Bangor 1876 ers i’r clwb gael ei sefydlu yn 2019.

Tachwedd 2023 oedd hi pan aeth y clybiau benben yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru yn Stadiwm Dinas Bangor, ac ar ôl i Elliott Reeves roi’r Fflint ar y blaen, fe unionodd Bangor y sgôr yn y modd mwyaf dramatig wedi 94 munud gyda’r golwr Carl Jones yn sgorio i’r Dinasyddion o gic gornel.

Ond Y Fflint oedd yn fuddugol yn y pen draw, yn ennill ar giciau o’r smotyn, a bydd y cefnogwyr niwtral yn gobeithio am gêm gystal brynhawn Sadwrn yma.

Fe wnaeth y clybiau gyfarfod ddwywaith eto yng Nghynghrair y Gogledd yn nhymor 2023/24 gyda’r Fflint yn ennill y ddwy gêm yna hefyd (Ban 1-4 Ffl, Ffl 4-2 Ban).

Ond mae Bangor wedi profi eleni eu bod yn dîm caled i’w curo, a bydd y Dinasyddion yn anelu i fod y clwb cyntaf o drydedd haen y pyramid pêl-droed Cymreig i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.