Llofrudd Soham, Ian Huntley wedi marw ar ôl ymosodiad yn y carchar

hUNTLEY pa

Mae llofrudd Soham, Ian Huntley wedi marw yn yr ysbyty meddai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Roedd y cyn ofalwr ysgol 52 oed wedi dioddef anaf difrifol i’w ymennydd yn ystod ymosodiad yng Ngharchar Frankland, yn Durham, ar 26 Chwefror.

Roedd wedi cael ei gadw ar beiriant cynnal bywyd yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro dro ar ôl tro ar ei ben gan garcharor arfog â bar metel.

Fe gafodd ei ddedfrydu i oes yn y carchar am lofruddio Holly Wells a Jessica Chapman, y ddwy yn 10 oed, yn 2002.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Mae llofruddiaethau Holly Wells a Jessica Chapman yn parhau i fod yn un o’r achosion mwyaf brawychus a gofidus yn hanes ein cenedl, ac mae ein meddyliau gyda’u teuluoedd.”

Image
Holly Wells a Jessica Chapman
Holly Wells a Jessica Chapman

Yn ôl The Sun, cafodd peiriant cynnal bywyd Huntley ei ddiffodd amser cinio ddydd Gwener ar ôl i brofion ar ei ymennydd ddangos ei fod mewn cyflwr diymateb parhaol (vegetative state).

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Durham: "Mae dyn a ymosodwyd arno yn HMP Frankland yn Durham yr wythnos diwethaf wedi marw yn yr ysbyty y bore yma.

"Fe gafodd Ian Huntley, 52, ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad yn y gweithdy ar fore Iau 26 Chwefror.

"Mae ymchwiliad yr heddlu i amgylchiadau’r digwyddiad yn parhau."

Nid yw Heddlu Durham wedi enwi’r sawl sydd dan amheuaeth, ond ar ddiwrnod yr ymosodiad dywedodd y llu bod dyn yn ei 40au yn y ddalfa.

Ar ôl yr ymosodiad, dywedodd merch Huntley, Samantha Bryan, 27, wrth The Sun on Sunday bod “lle arbennig yn uffern yn aros amdano.”

Fe lofruddiodd Huntley Holly a Jessica ar ôl iddyn nhw adael barbeciw teuluol i fynd i brynu pethau melys yn Soham, Sir Gaergrawnt, ar 4 Awst 2002. 

Fe wnaeth o adael eu cyrff mewn ffos.

Roedd dedfryd oes Huntley yn argymell y dylai dreulio o leiaf 40 mlynedd yn y carchar am lofruddiaethau Soham.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.