Pum mlynedd o garchar i ddyn o Gasnewydd am gefnogi ISIS

Y dyn

Mae dyn 21 oed o Gasnewydd wedi ei garcharu am bum mlynedd am gefnogi'r Wladwriaeth Islamaidd (ISIS) - y mudiad terfysgol sydd wedi ei wahardd.

Roedd Shazad Ali wedi pledio'n euog i nifer o droseddau ac fe gafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Bryste ddydd Gwener.

Roedd ei droseddau yn cynnwys cefnogi mudiad gwaharddedig  ISIS, yn groes i Adran 12 o'r Ddeddf Terfysgaeth 2000, a dau achos o annog terfysgaeth, yn groes i Adran 1 o'r Ddeddf Terfysgaeth 2006.

Plediodd yn euog hefyd i fod a dogfennau yn ei feddiant allai fod yn ddefnyddiol i derfysgwr, yn groes i Adran 58 o'r Ddeddf Terfysgaeth 2000.

Cafodd ei arestio ym mis Ionawr y llynedd, ac yn ystod archwiliad mewn tŷ, daeth swyddogion o hyd i ddyfeisiadau digidol oedd yn cynnwys "llyfrgell o gyhoeddiadau terfysgol."

Roedd hefyd wedi rhannu nifer o fideos Islamaidd eithafol ar-lein.

Yn ogystal â dedfryd o bum mlynedd, fe gafodd ei roi ar drwydded estynedig am ddwy flynedd.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Leanne Williams, o Blismona Gwrthderfysgaeth Cymru: “Roedd Shazad Ali yn cynrychioli bygythiad clir iawn, peryglus iawn i’r cyhoedd, ac mae’r ddedfryd hon yn dod â’r hyn a fu’n ymchwiliad hir a gynhaliwyd gan Blismona Gwrthderfysgaeth Cymru i ben.

"Mynegodd Ali ei gefnogaeth i’r Wladwriaeth Islamaidd yn amlwg, a’n blaenoriaeth bennaf oedd sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu hamddiffyn rhagddo ef a’r rhethreg ffiaidd a hyrwyddodd.”

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.