Carcharu cwpl o’r Rhondda am gael rhyw mewn man cyhoeddus
Mae cwpl o’r Rhondda wedi cael eu carcharu ddydd Gwener ar ôl cael rhyw mewn man cyhoeddus.
Mae Anthony Evans, 42 oed, a Leah Evans, 37 oed, wedi cael eu carcharu am dri mis.
Roedden nhw wedi cael eu dal ar gamerâu cylch cyfyng yn Nhonysguboriau yn cael rhyw ym mis Chwefror y llynedd.
Fe gafodd swyddogion alwad gan berchennog caffi yn y dref ar 23 Chwefror yn honni bod dau berson wedi torri i mewn i ardal seddi awyr agored y busnes.
Fe blediodd y ddau’n euog yn Llys Ynadon Merthyr Tudful i gyflawni gweithred a oedd yn tramgwyddo gwedduster cyhoeddus, ac i gyflawni difrod troseddol.
Dywedodd PC Ffion Hiscutt: “Roedd hwn yn ymddygiad annerbyniol ac yn weithred warthus mewn man cyhoeddus oedd i’w weld yn glir gan y cyhoedd.
“Mae ganddyn nhw bellach gyfnod byr yn y carchar i feddwl am eu gweithredoedd.”