Wrecsam i wynebu Chelsea yn rownd 16 olaf Cwpan yr FA

Wrecsam v Nottingham Forest

Fe fydd Wrecsam yn wynebu Chelsea yn rownd yr 16 olaf yng Nghwpan yr FA nos Sadwrn ar y Cae Ras. 

Dyma'r tro cyntaf i Wrecsam gyrraedd y bumed rownd ers 19 mlynedd, ac mae'n un o'r gemau mwyaf yn hanes y clwb. 

Pe bai Wrecsam yn cael buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Chelsea, fe fyddan nhw'n cyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers 1997. 

Mae'r Dreigiau eisoes wedi curo tîm o Uwch Gynghrair Lloegr i gyrraedd yr 16 olaf, wedi iddyn nhw ennill yn erbyn Nottingham Forest ddechrau mis Ionawr.

Mae Wrecsam ar hyn o bryd yn y chweched safle, gan olygu y byddai gorffen y tymor yn y safle yma yn sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr. 

Mae capten Wrecsam Dominic Hyam wedi dweud fod y gêm yn erbyn Chelsea yn "ffordd wych o dynnu sylw oddi ar" ymgyrch Wrecsam wrth geisio sicrhau safle ail-gyfle yn y Bencampwriaeth.

"Rydych chi eisiau chwarae yn erbyn y timau gorau a'r chwaraewyr gorau. Dyna beth rydych chi'n gweithio'n galed amdano, chwarae yn erbyn timau'r Uwch Gynghrair yng Nghwpan yr FA," meddai.

"Y gobaith ydy y byddwn ni yno ryw ddydd hefyd, fel tîm o Uwch Gynghrair Lloegr yn chwarae yn erbyn tîm arall yng Nghwpan yr FA."

Y tro diwethaf i Wrecsam a Chelsea wynebu ei gilydd oedd ym 1982.

Mae record diweddar Wrecsam yn y Bencampwriaeth bellach yn golygu eu bod nhw yn y chweched safle gyda phedwar pwynt o wahaniaeth rhwng y tîm sydd yn seithfed.

Fe fydd Wrecsam yn wynebu Hull City, sydd dri phwynt yn unig yn uwch na'r Dreigiau, yn y gêm nesaf ar ôl Chelsea, cyn croesawu Abertawe i'r Cae Ras. 

Ers iddyn nhw golli yn erbyn Abertawe y penwythnos cyn y Nadolig, tîm Phil Parkinson sydd wedi sicrhau'r mwyaf o bwyntiau yn y Bencampwriaeth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.