Sir Benfro: Cynghorwyr yn pleidleisio o blaid cau ysgol gynradd Gymraeg
O un bleidlais yn unig, mae Cynghorwyr Sir Benfro wedi cefnogi argymhelliad i gau Ysgol Clydau ym mhentref Tegryn.
Fe bleidleisiodd 26 o blaid y cynnig, gyda 25 yn erbyn, gydag un cynghorydd yn ymatal.
Fe fydd yr ysgol yn cau yn swyddogol ar ddiwedd mis Awst eleni, gyda'r disgyblion yn cael eu trosglwyddo i Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych, sydd yn ysgol cyfrwng Cymraeg arall.
Mae tua 20 o ddisgyblion ar ôl yn yr ysgol.
Ar ôl siarad yn y siambr o blaid cadw'r ysgol ar agor, dywedodd y Cynghorydd Iwan Ward y byddai'r penderfyniad yn "ergyd fawr i'r Gymraeg" yn y gymuned wledig.
Fe gefnogwyd cynnig hefyd i gyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol Maenorbŷr.
Roedd yna addewid wedi bod yn wreiddiol i ail adeiladu'r ysgol ar ôl tân ym mis Hydref 2022.
Ers y tân, mae'r plant wedi cael eu haddysgu yn neuadd ym mhentref Jameston gerllaw
Yn dilyn dadl hir yn y siambr, fe bleidleisiodd y cynghorwyr o 29 pleidlais i 20 o blaid cau'r ysgol.
Yn gynharach ddydd Iau, roedd Cyngor Sir Benfro wedi pleidleisio dros gynnal ymgynghoriad statudol ar greu ysgol gynradd newydd i blant 3-11 ar safle presennol Ysgol Saundersfoot, allai olygu cau Ysgol Stepaside.
Cafodd yr argymhelliad sêl bendith y cyngor er bod pryderon wedi eu mynegi am effaith canoli addysg yn Saundersfoot ar blant o'r gymuned teithio a sipsiwn sydd yn mynychu ysgol Stepaside.
Yn ôl Cyngor Sir Penfro, mae yna ormod o lefydd gwag yn ysgolion y sir, gyda 2000 yn llai o blant nag oedd ym 1996.