Gwynedd: Cymeradwyo datblygiad tai fforddiadwy er gwaethaf pryderon ‘helaeth’
Mae cynllun am stad o dai “100% fforddiadwy” yng Ngwynedd wedi’i ganiatáu er gwaethaf pryderon "helaeth" dros ddiogelwch ffordd.
Mae Cymdeithas Dai, Adra, yn dweud y bydd datblygiad am 17 o gartrefi yn Llanrug yn “gyfle gwych” i adeiladu tai er mwyn “cwrdd â gofynion lleol”.
Roedd sawl un wedi gwrthwynebu’r cynllun, sydd wedi’i leoli ar dir ger Ffordd Glanffynnon.
Ond mewn cyfarfod o bwyllgor cynllunio Gyngor Gwynedd yr wythnos hon, fe gafodd y datblygiad ei gymeradwyo gydag amodau, gan gynnwys amod i glustnodi £10,000 tuag at ardal hamdden neu chwarae agored.
Yn y cyfarfod, fe ddywedodd y swyddog cynllunio Gwawr Hughes bod y cyngor wedi derbyn “gohebiaeth helaeth gan drigolion lleol”.
Ymhlith y gwrthwynebiadau a godwyd roedd, “diogelwch ffordd, cynnydd mewn llif traffig a lefelau traffig yn ystod amseroedd penodol, ffyrdd peryglus a chul, cyffordd o ansawdd gwael, parcio ar y ffordd, a mynediad i gerbydau gwasanaethau brys.”
Cafodd y cynllun gwreiddiol ei ddiwygio er mwyn “ymateb i’r pryderon”, gan gynnwys gwella diogelwch a lledaenu’r man troi.
“Er ein bod yn cydnabod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynglŷn â diogelwch i gerddwyr, diogelwch ffordd, parcio a chynnydd mewn traffig, o’r rhan termau polisi, roedd y cynllun yn cael ei ystyried yn un derbyniol," meddai.
Galw
Roedd y cynllun am dai 100% fforddiadwy yn cynnwys cymysgedd o dai dau lawr gyda dwy, tair a phedair llofft, ar gael fel cartrefi cymdeithasol neu dai rhent canolradd (intermediate tenure).
Dywedodd Elliw Owen o Adra fod tua 400 o deuluoedd wedi mynegi diddordeb yn y cartrefi.
Roedd 42 yn gymwys meddai, ar ôl profi’r angen gwirioneddol am dŷ arnynt a chysylltiad pum mlynedd gyda’r ardal cyngor cymuned.
Fe wnaeth y cynghorydd lleol, Beca Brown, ddatgan ei chefnogaeth i’r cynllun, gan ddweud ei bod yn falch y byddai pobl leol yn gallu cael “cartref addas, diogel a chynnes.”
“Mae bod heb gartref addas yn gosod gymaint o straen ar bobl ac mae clywed eu straeon yn gallu bod yn dorcalonnus. Yn sicr mae yna alw am gartrefi yn Llanrug," meddai.
Dywedodd fod sawl un o’r rhesymau dros wrthwynebiad lleol bellach wedi eu “datrys”.
Mae Adra wedi croesawu’r penderfyniad i gymeradwyo’r cynllun.
Dywedodd Huw Evans, Pennaeth Datblygu Adra: “Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yn ardal Llanrug, gyda dros 400 o deuluoedd ar y rhestrau aros tai cymdeithasol a chanolraddol wedi mynegi diddordeb mewn byw yn Llanrug, gyda bron 50 ohonynt â chysylltiad lleol ac wedi byw yn y pentref am fwy na phum mlynedd.
“Mae’r angen yma yn adlewyrchu’r darlun cenedlaethol ac roeddem yn falch o allu rhoi cynllun tai fforddiadwy fyddai’n darparu cartrefi o safon o flaen y pwyllgor cynllunio.”
Ychwanegodd y byddai’r cynllun yn cyfrannu tuag at ymrwymiad y corff i adeiladu hyd at 800 o dai fforddiadwy “o safon” erbyn 2030.
