Llywodraeth Cymru yn gwerthu tir ym Mhowys i gwmni offer milwrol
Mae cwmni o'r sector amddiffyn wedi prynu tir gan Llywodraeth Cymru ym Mhowys i ddatblygu a phrofi offer milwrol newydd.
Mae BANAIR wedi prynu dwy lain ym Mharc Menter Glannau Gwy, yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, ac wedi dechrau profi eu system bontio cerbydau alwminiwm ysgafn ar y safle.
Mae'r offer, sydd hyd at 30 medr o hyd, yn cael ei ddatblygu i "alluogi gweithrediadau milwrol i groesi dŵr neu fylchau dros dir sych".
Mae BANAIR, sydd â'u pencadlys yng nghanolbarth Lloegr, hefyd yn awyddus i sefydlu ffatri newydd gerllaw. Mae'r cwmni'n dweud y byddai hyn yn creu swyddi diwydiannol yng nghefn gwlad Powys.
Mae BANAIR yn disgwyl creu tua 20 o swyddi ar gyfer cynhyrchu eu systemau pontio a'u fframiau dur ysgafn dros y pum mlynedd nesaf a hyd at 10 swydd ym maes ymchwil a datblygu ar gyfer ei gynhyrchion amddiffyn.
Dywedodd Andrew Gunn, Prif Swyddog Gweithredol BANAIR y byddai'r safle newydd yn un "pwysig" i'r cwmni.
"Bydd y maes profi a'r safle gweithgynhyrchu newydd hwn yn caniatáu i BANAIR ddatblygu ein portffolio o gynhyrchion amddiffyn, ac rydym wir yn gwerthfawrogi'r cymorth blaengar a buddiol yr ydym wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy gydol y broses," meddai.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: "Roedd angen gofod ychwanegol ar BANAIR i ddatblygu ac arddangos atebion milwrol newydd, ac roeddem yn gallu cynorthwyo'r cwmni o fewn amserlen dynn i helpu i gyflawni ei rwymedigaethau contract a chyflawni ei uchelgeisiau ehangu.
"Mae sicrhau swyddi gweithgynhyrchu medrus i'r rhanbarth at y dyfodol yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy ffyniannus i bawb."
Llun: System bont Banair
