Cyhuddo dyn o lofruddio dyn arall ym Mhencoed
Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn 58 oed ym Mhencoed ger Pen-y-bont yn dilyn digwyddiad yn ystod oriau mân fore Sadwrn.
Mae Liam Walters, 26 o Bencoed bellach wedi’i gyhuddo o lofruddio David Rogers.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fe fydd Liam Walters yn ymddangos o flaen llys ddydd Mercher.
Bu farw David Rogers ddydd Llun ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.
Cafodd ei gludo yno wedi digwyddiad yn ardal Ffordd Felindre, Pencoed, rhwng 12.30 a 04.30 fore Sadwrn.
Mae Heddlu’r De yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal yr adeg honno i gysylltu â’r llu ar unwaith drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2600063517.