'Angen cau'r bwlch': Dim digon o gefnogaeth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru

Taliad Gofalwyr

Mae awdurdodau lleol Cymru wedi cael eu hannog i gau’r “bwlch” rhwng y nifer o bobl sy’n ystyried eu hunain fel gofalwyr, a’r nifer sy’n derbyn y gefnogaeth briodol i gyflawni eu rôl.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ddydd Mercher sydd yn nodi bod heriau yn bodoli o hyd i ofalwr di-dâl.

Yn ôl Michelle Morris, “mae'n siomedig” nad yw rhai argymhellion a gafodd eu cyflwyno ddwy flynedd yn ôl wedi eu rhoi ar waith eto.

Mae’n galw ar awdurdodau lleol Cymru i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu “hadnabod” a’u “cefnogi’n” llawn.

Fe gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi fel dilyniant i'w ymchwiliad yn 2024 oedd yn edrych ar sut mae awdurdodau lleol Cymru yn nodi, yn asesu ac yn cefnogi gofalwyr.

Roedd pedwar cyngor sir wedi cael eu hasesu fel rhan o’r ymchwiliad gwreiddiol, sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Castell-nedd Port Talbot. 

Roedd yr adroddiad blaenorol wedi canfod mai dim ond cyfran fechan o ofalwyr a gafodd asesiadau o’u hanghenion. Doedd llawer ddim yn ymwybodol o’u hawliau na’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Mae'r adroddiad dilynol yn adolygu'r cynnydd sydd wedi ei wneud gan yr awdurdodau rheiny ac yn crynhoi ymatebion a data gan yr 18 awdurdod lleol sy'n weddill yng Nghymru.

Dywedodd yr Ombwdsmon bod yna sawl gwelliant ers yr ymchwiliad cychwynnol. Er hynny mae bwlch yn parhau o hyd rhwng nifer y bobl sy’n ystyried eu hunain yn ofalwyr a'r rhai sy'n derbyn asesiadau ffurfiol o anghenion. 

'Camau cadarnhaol'

Mae data o'r 18 awdurdod sy’n weddill wedi dangos mai dim ond 2.73% o ofalwyr cafodd asesiad ar gyfer eu hanghenion yn 2023/24. 

Dim ond 1.32% cafodd asesiad a wnaeth arwain at gynllun cymorth.

Dywedodd Ms Morris ei bod yn croesawu’r “camau cadarnhaol a gymerwyd ers fy ymchwiliad gwreiddiol, sydd wedi helpu i wella sut mae gofalwyr yn cael eu hadnabod, eu hysbysu am eu hawliau a’u cefnogi drwy’r broses asesu.” 

Ond mae’n dweud bod gwaith pellach i’w wneud. Mae wedi cyflwyno rhagor o argymhellion i Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir y Fflint, gan gynnwys gwell goruchwyliaeth trwy eu Pwyllgorau Archwilio a Risg.

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd llefarydd ar gyfer cyngor Sir Ceredigion eu bod yn "gwerthfawrogi'r safonau eithriadol o gefnogaeth ac ymroddiad y mae ein gofalwyr di-dâl yn eu darparu i'w hanwyliaid ac rydym wedi ymrwymo i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt iddynt er mwyn iddynt barhau yn y rôl hanfodol hon."

Dywedodd y llefarydd bod yr awdurdod wedi rhoi ar waith nifer o'r argymhellion gan yr Ombwdsmon ac y bydd yr argymhellion eraill yn cael eu gwneud pan fydd "systemau TG newydd yn cefnogi ein darpariaeth Gofal Cymdeithasol yn cael eu rhoi ar waith yn ystod y misoedd nesaf."

Mae cynghorau Caerffili, Sir y Fflint a Chastell-nedd Port Talbot hefyd wedi cael cais am ymateb. 

Gwelliannau

Ymhlith rhai o’r gwelliannau sydd wedi eu gwneud y mae newidiadau i adnoddau sy’n egluro’r broses asesu anghenion i ofalwyr.  

Mae’r adnoddau hyn bellach ar gael yn y Gymraeg, ieithoedd eraill a fformatau Hawdd eu Deall hefyd. 

Mae gwelliannau hefyd wedi bod o ran cyfathrebu a rhoi cymorth yn dilyn asesiadau. Mae cynnydd hefyd wedi'i wneud o ran gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau iechyd, meddai’r Ombwdsmon.

Beth yw safbwynt y pleidiau? 

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal, Mabon ap Gwynfor AS:

"Mae gofalwyr di-dâl yn asgwrn cefn i'n gwasanaeth iechyd a gofal ac mae hi'n hen bryd eu bod yn derbyn y parch maent yn haeddu."

Dywedodd nad oes yna ddigon yn cael eu hasesu er mwyn gweld beth yw eu hanghenion.

"Bydd Llywodraeth Plaid Cymru o ddifrif am gefnogi'r gofalwyr sydd yn cyfrannu gymaint i'n cymdeithas drwy sicrhau fod yr ysbaid angenrheidiol ar gael i ofalwyr di-dâl."

Mae Reform yn dweud bod yn rhaid i ofalwyr gael gwybod y diweddaraf am eu hawliau a'r cymorth sydd ar gael.

"Am ddegawdau mae llywodraethau Llafur Cymru sydd wedi cael cefnogaeth Plaid wedi esgeuluso'r system gofal cymdeithasol sydd hefyd wedi cael effaith ar ofalwyr di-dâl.

"Mae gofal cymdeithasol yng Nghymru angen ei ddiwygio yn llwyr er mwyn rhoi tegwch i staff sydd o fewn y system a hefyd gweithwyr gofal di-dâl," meddai'r AS James Evans. 

Mae'r AS Peter Fox ar gyfer y Ceidwadwyr yn dweud bod hi'n "bryderus iawn" bod cyn lleied o ofalwyr yn cael yr asesiad a'r gefnogaeth maen nhw angen.

"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau datrys gofal cymdeithasol fel bod gofalwyr yn cael cefnogaeth ymarferol, nid gwaith papur. Dyma pam bod ein maniffesto wedi ymrwymo i gyflwyno'r hawl i ofalwyr gael seibiant, mynediad am ddim i hyfforddiant a chefnogaeth a chydnabod gofalwyr ifanc trwy'r Cerdyn Gofalwyr Ifanc. Mae'r cerdyn yn cynnwys teithio ar fws am ddim a grantiau i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith pan fo angen."

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru a’r pleidiau gwleidyddol eraill am ymateb.  

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.