Caerdydd: Dyn i ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o herwgipio
Fe fydd dyn 33 oed o Gaerdydd yn ymddangos yn y llys ddydd Llun wedi’i gyhuddo o herwgipio a chyffwrdd yn rhywiol.
Cafodd Ashley Fernandes ei arestio yn dilyn ymgais honedig i gipio menyw 18 oed yn ardal Pontprennau o Gaerdydd ddydd Sadwrn.
Digwyddodd y digwyddiad am tua 18.30 ar gyffordd Clos Nant Mwlan a Heol Pontprennau, ar ôl i'r dioddefwr ddod oddi ar fws.
Y gred yw bod rhywun wedi ei dilyn.
Ar ôl cael ei arestio, cafodd Fernandes ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.
Mae Heddlu De Cymru wedi diolch i’r cyhoedd am eu cymorth, yn dilyn apêl am wybodaeth.
