Argyfwng Iran: Pwy oedd yr Ayatollah Ali Khamenei?
“Ychydig o bobl fydd yn galaru am yr Ayatollah”.
Geiriau John Healey, Ysgrifennydd Amddiffyn Llywodraeth Prydain fore dydd Sul, yn dilyn cadarnhad am farwolaeth yr Ayatollah Ali Khamenei mewn ymosodiad ar y cyd rhwng yr Unol Daleithiau ac Israel ddydd Sadwrn.
Felly pwy oedd yr Ayatollah, a pham fod ei farwolaeth yn taflu cysgod enfawr ar y Dwyrain Canol, a pheryg y gallai'r sefyllfa arwain at ryfel waedlyd yn y rhanbarth?
Cafodd Ali Hosseini Khamenei ei eni ym 1939 a'i fagu ym Mashhad, pan oedd y wlad yn dal dan rym brenhiniaeth Shah Iran.
Astudiodd i fod yn glerigwr, ond fel llawer o glerigwyr y cyfnod roedd ei ddiddordebau yn ymestyn ymhellach na chrefydd, ac fe ymddiddorodd mewn gwleidyddiaeth.
Roedd yn gymeriad amlwg yn yr ymgyrch i ddisodli teulu'r Shah, Mohammad Reza Pahlavi, yn ystod y 60au a'r 70au - ac fe gafodd ei arestio nifer o weithiau.
Chwyldro
Newidiodd ei fywyd, a bywyd ei gydwladwyr am byth yn 1979 gyda'r Chwyldro Iranaidd yn disodli canrifoedd o rym y frenhiniaeth dros y wlad - brenhiniaeth oedd wedi derbyn cefnogaeth agos gan wledydd Gorllewinol.
Cafodd Ali Khamenei ei ddewis yn drydydd arlywydd ar Iran rhwng 1981 a 1989, yn ystod cyfnod y rhyfela gwaedlyd rhwng Iran ag Irac.
Yn dilyn marwolaeth yr Ayatollah Khomeini yn 1989, cafodd Ali Khamenei ei ethol i fod y Goruchaf Arweinydd ar Iran gan y Cynulliad o Arbenigwyr.
Nid Ali Khamenei oedd y dewis amlwg ar y pryd, gan nad oedd ganddo'r dylanwad clerigol cryfaf o'r ymgeiswyr, ond fe gafodd y cyfansoddiad ei newid er mwyn sicrhau mai Khamenei oedd yn cael ei benodi.
Dwrn o ddur
Fe arweiniodd ei wlad gyda dwrn o ddur, gan gynnal rhwydwaith eang o heddlu cudd i gadw'r boblogaeth dan ormes.
Roedd propaganda a pharanoia yn arfau yr oedd yn eu defnyddio i gadw ei bobl yn deyrngar, yn ogystal â grym milwrol gwaedlyd.
Pan brotestiodd miloedd ar strydoedd y wlad yn 2022 mewn ymateb i farwolaeth Mahsa Amini yn y ddalfa am dorri rheolau llym gwisgoedd menywod y wlad, cafodd 7,000 o bobl eu lladd gan yr awdurdodau yn ôl mudiadau hawliau dynol.
Bu farw Mahsa yn Tehran wedi iddi gael ei harestio gan yr heddlu moeseg am wisgo'i hijab yn "anghywir".
Yn ganolog i arweinyddiaeth Ali Khamenei oedd hybu cwlt y personoliaeth - rhywbeth yr oedd yn ei annog yn fawr.
Roedd golygfeydd o dorfeydd enfawr yn ei edmygu ac yn tyngu llw o ymroddiad iddo yn ddelweddau cyson o'r wlad yn ystod ei gyfnod mewn grym.
Roedd yn gefnogol i ddatblygiad cynllun niwclear i'w wlad, er bod economi Iran yn baglu o un argyfwng i'r llall yn gyson.
Roedd ei ysfa i ddatblygu cynllun niwclear yn groes i ddymuniadau nifer o wledydd yn y rhanbarth oedd yn ei weld fel cam peryglus at arfogi gwlad fygythiol oedd gyda dylanwad aruthrol ar wleidyddiaeth y Dwyrain Canol yn barod.
Daeth sancsiynau i rym yn erbyn y wlad o ganlyniad, ond yn 2015 cafodd cytundeb ei arwyddo oedd yn codi gwaharddiadau masnachu ar yr amod y byddai Iran yn cyfyngu ar ei dyheadau niwclear.
Dylanwad
Roedd dylanwad Iran ar wleidyddiaeth y Dwyrain Canol a thu hwnt yn bellgyrhaeddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf - gyda'r wlad yn darparu dronau i Rwsia yn eu rhyfel yn Wcráin.
Roedd yr Ayatollah yn gefnogol hefyd i ymosodiad gwaedlyd Hamas ar Israel ym mis Hydref 2023, a'i wlad yn cefnogi ymdrechion Hezbollah yn Libanus i ymosod ar Israel.