Disgwyl i'r Alban gyflwyno tystysgrif brechlyn mewn clybiau nos

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi galw am gyflwyno tystysgrif brechlyn Covid-19 i gael mynediad i glybiau nos neu ddigwyddiadau o 10,000 o bobl.
Dywedodd Ms Sturgeon ei bod yn gobeithio y bydd Aelodau Senedd yr Alban yn cefnogi’r cynllun er mwyn helpu i leihau niferoedd achosion o Covid-19 yn y wlad.
Yn ôl The Scotsman, byddai’r cynllun yn cael ei gyflwyno unwaith y bydd pob oedolyn wedi cael cyfle i dderbyn y ddau frechlyn.
Dywedodd Ms Sturgeon: “Wrth sicrhau fod pobl sy’n dod i’r llefydd yma wedi eu brechu’n llawn, byddem yn cymryd camau cymesur i wneud pethau’n fwy diogel i bawb.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Llywodraeth yr Alban