Cipolwg ar unig gêm y Cymru Premier JD ddydd Sul

Hwlffordd

Dyma gipolwg ar unig gêm y Cymru Premier JD ddydd Sul.

Hwlffordd (7fed) v Y Fflint (10fed) | Dydd Sul – 14:30

Brynhawn Sul mi fydd Hwlffordd yn gobeithio parhau â’u record berffaith ers yr hollt, tra bydd Y Fflint yn awyddus i ymestyn y bwlch rhyngddyn nhw a’r Bala (11eg).

Ar ôl colli dim ond un o’u naw gêm ddiwethaf, mae Hwlffordd wedi torri bedwar pwynt yn glir yn y 7fed safle (ennill 6, cyfartal 2).

Mae’r Adar Gleision wedi cadw chwe llechen lân yn eu saith gêm ddiwethaf wrth i dîm Tony Pennock lygadu eu lle yn y gemau ail gyfle.

Mae’r Fflint ar rediad o bum gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, a bydd tîm Lee Fowler yn wynebu Dinas Bangor 1876 o’r drydedd haen yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru y penwythnos nesaf, gyda’r Sidanwyr yn breuddwydio am godi’r cwpan am y tro cyntaf ers 1954.

Dyw Hwlffordd m’ond wedi colli un o’u wyth gornest ddiwethaf yn erbyn Y Fflint ac fe sgoriodd Dan Hawkins yn y ddwy gêm yn erbyn y Sidanwyr yn rhan gynta’r tymor (Hwl 3-1 Ffl, Ffl 2-2 Hwl).

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ❌✅✅✅✅
Y Fflint: ❌✅✅➖➖

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.