Dros 70 cyhuddiad mewn ymchwiliad i honiadau o gam-drin mewn hen ganolfan blant
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i adroddiadau o gam-drin plant mewn hen ganolfan blant yn Sir Fynwy wedi cyhuddo dau ddyn o 26 o droseddau ychwanegol.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi awdurdodi cyhuddiadau pellach yn erbyn Angus Riddell a Robin Griffiths a oedd wedi'u cyhuddo yn flaenorol o 45 o gyhuddiad rhyngddynt.
Cafodd Riddell, 69 oed, o Gwmbach, Rhondda Cynon Taf, ei arestio ar 24 Chwefror ac mae wedi cael ei gyhuddo o 21 o droseddau eraill:
- Dau gyhuddiad o dreisio menyw dan 16 oed
- Un cyfrif o anweddusrwydd difrifol gyda merch o dan 14 oed
- Tri chyhuddiad o ymosodiad anweddus ar ferch dan 16 oed
- Un cyhuddiad o ymosodiad anweddus ar fachgen dan 14 oed
- 14 cyhuddiad o ymosod / cam-drin / esgeuluso / gadael plentyn / person ifanc i achosi ddioddefaint / anaf diangen
Cafodd Riddell ei gyhuddo yn flaenorol o 38 o droseddau ym mis Mehefin 2025.
Cafodd Robin Griffiths, 66 oed, o Flaenau Gwent yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Bideford, Dyfnaint, ei arestio ar 23 Chwefror ac mae wedi cael ei gyhuddo o bum trosedd arall:
- Tri chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 14 oed
- Dau gyhuddiad o anweddusrwydd difrifol gyda bachgen o dan 14 oed
Cafodd Griffiths ei gyhuddo o saith trosedd ym mis Mehefin 2025.
Mae'r ddau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddynt ymddangos gerbron ynadon ym mis Mawrth mewn perthynas â'r cyhuddiadau newydd.
Mae'r ddau ddiffynnydd eisoes wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau cychwynnol mewn gwrandawiadau llys blaenorol, ac mae dyddiad yr achos llys, sef Ionawr 2027, wedi'i bennu.
Ymgyrch Spinney
Mae Ymgyrch Spinney wedi bod yn ymchwilio i adroddiadau a wnaed gan nifer o ddynion a menywod o gam-drin rhywiol a chorfforol a gyflawnwyd yn eu herbyn fel plant yn bennaf yn hen Ganolfan Asesu Coed Glas, y Fenni, rhwng y 1970au a'r 1990au.
Roedd y ganolfan ar y pryd yn gyfrifoldeb i hen Awdurdod Lleol Gwent ac mae wedi cau ers 1995.
Yn gynharach y mis hwn, awdurdododd y CPS gyhuddiadau yn erbyn dau berson arall mewn cysylltiad â'r ymchwiliad gyda chwe throsedd rhyngddynt.
Cyhuddwyd Lisa Gething, menyw 59 oed o'r Fenni, gweithiwr cymdeithasol a gyflogir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, o bedwar cyhuddiad o ymosod, cam-drin, esgeulustod, gadael plentyn/person ifanc i achosi dioddefaint neu anaf diangen.
Cyhuddwyd Simon Bevan, dyn 55 oed o Gaerffili o ddau gyhuddiad o'r un drosedd. Maen nhw hefyd ar fechnïaeth ac ar fin ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener 27 Chwefror.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Andrew Tuck o Heddlu Gwent: "Mae ein ffocws yn parhau i fod ar gefnogi’r dioddefwyr yn yr ymchwiliad hwn a'u cefnogi gydag asiantaethau arbenigol.
"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ac awdurdodau lleol fel rhan o'r ymchwiliad hirdymor hwn.
"Rydyn ni'n cymryd pob adroddiad o gam-drin plant o ddifrif a byddem yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin neu sydd â phryderon am rywun a allai fod yn dioddef i ddod i siarad â'r heddlu.
"Byddwn yn gwrando arnoch chi ac yn ymchwilio i bob trosedd a hefyd yn sicrhau y cewch unrhyw gymorth neu gefnogaeth sydd ei angen arnoch."
Llun: Robin Griffiths (ar y chwith) ag Angus Riddell (PA News)