Yr Urdd yn cyhoeddi podlediad i ddysgwyr ifanc Cymraeg

Urdd
Mae mudiad Yr Urdd wedi cyhoeddi podlediad am y tro cyntaf erioed, a hynny i helpu dysgwyr ifanc Cymraeg medd y mudiad.
Yn ôl The National Cymru, bwriad 'Podlediad Cylchgrawn Cip' yw cynnig mwy o adnoddau ysgrifennu a darllen i blant yn Gymraeg.
Fe fydd y podlediad, sydd yn cynnwys Dysgwr y Flwyddyn 2019, Francesca Sciarrillo, a'r actor, Iwan Garmon, yn darlledu straeon o'r cylchgrawn Cip ar ffurf sain a fideo ac yn cael eu cyhoeddi bob mis.
Wrth i'r Urdd gyrraedd ei ganmlwyddiant yn 2022, mae'r sefydliad yn gobeithio cynhyrchu mwy o bodlediadau yn y dyfodol.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Urdd Gobaith Cymru