Y tir yng Ngwynedd sy'n rhan allweddol o gynllun ynni rhwng Cymru a'r Alban

Grid

Mae National Grid wedi dechrau'r broses o archwilio tir yng ngogledd Gwynedd fydd yn rhan o gynllun 'hanfodol' i drosglwyddo ynni glân rhwng yr Alban a Chymru a thu hwnt.

Mae arwyddion wedi ymddangos yn ardal Caernarfon yn ddiweddar sydd yn gofyn am wybodaeth am ddarnau o dir allai fod yn rhan o gynllun 'Cyswllt Gorllewinol 2'.

Bwriad y cynllun yw i gludo ynni mewn ceblau dros y môr rhwng yr Alban a Chymru, gan gyrraedd pen y daith ar arfordir Gwynedd i'r de o Gaernarfon.

Yna bydd y cyflenwad ynni yn cael ei drosglwyddo o dan y ddaear mewn ceblau i bentref Pentir, i'r de o Fangor - ac mae angen dewis llwybr cloddio er mwyn cwblhau y gwaith.

Mae map cychwynnol o'r ardal sydd yn cael ei harchwilio ar gyfer gosod llwybr y cyflenwad ynni i Bentir yn dangos llain o dir sydd yn cynnwys pentrefi Llandwrog, rhan o Bontnewydd, cyrion Llanrug a Phentir.

Image
MAP NG
Map o lwybr y cyflenwad ynni o'r Alban i ogledd Gwynedd (Llun: National Grid)

Mae National Grid yn y broses o gynnal archwiliadau tir ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o gynnal ymgynghoriad ar eu cynllun yn ystod yr haf.

Mae'r cwmni wedi cadarnhau mai cyswllt tanddaearol fydd rhwng de Caernarfon a Phentir, yn hytrach na drwy beilonau.

Nid yw'r union fan lle bydd y ceblau o'r Alban yn cyrraedd y tir mawr wedi ei benderfynu eto, ond mae map amlinellol yn awgrymu y gallai fod yng nghyffiniau Pontllyfni, i'r de o Stâd Glynllifon.

Dywedodd National Grid wrth Newyddion S4C y gallai pobl leol weld "gweithgaredd arolygu yn digwydd yn yr ardal", sydd o gymorth i'r cwmni wrth iddyn nhw "ddeall y tir a’r amgylchedd lleol yn well wrth i ni ddatblygu ein cynigion.”

Byddai'r cynllun yn "cynnwys glanfa ar arfordir Gwynedd, cebl tanddaearol, a gorsaf drawsnewid newydd ger is-orsaf bresennol Pentir," meddai gwelfan National Grid.

Mae cynllun 'Cyswllt Gorllewinol 2' yn brosiect ar y cyd rhwng National Grid a SP Energy Networks ar gyfer cysylltiad Cerrynt Uniongyrchol Foltedd Uchel (HVDC) newydd yn y môr rhwng Cymru a'r Alban. 

Bydd ceblau tanddaearol newydd yn cysylltu ynni gwynt adnewyddadwy ar y môr sydd yn cael ei gynhyrchu ym moroedd yr Alban gyda chartrefi a busnesau ledled Cymru a thu hwnt.

Image
NG
Un o'r arwyddion sydd wedi ymddangos yn lleol yn ddiweddar.

Dywedodd llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol wrth Newyddion S4C: “Mae’r prosiect hwn yn hanfodol i gysylltu Gogledd Cymru a thu hwnt ag ynni glanach, cartref o ffynonellau mwy fforddiadwy, gan helpu i gefnogi swyddi, twf economaidd a diogelwch ynni hirdymor.

“Mae’r cynllun ar gam cynnar o’i ddylunio ar hyn o bryd. 

“Rydym yn bwriadu dechrau ein cam cyntaf o ymgynghoriad cyhoeddus yn haf 2026, pan fyddwn yn cyflwyno ein cynigion cychwynnol i gymunedau lleol. 

"Bydd yr holl adborth a dderbynnir yn cael ei ystyried yn ofalus wrth i ni fireinio a datblygu’r prosiect."

Ychwanegodd y llefarydd: “Fel rhan o’n gwaith dylunio cynnar, efallai y bydd trigolion yn gweld gweithgaredd arolygu yn digwydd yn yr ardal. 

"Mae’r arolygon hyn yn ein helpu i ddeall y tir a’r amgylchedd lleol yn well wrth i ni ddatblygu ein cynigion.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.