Undeb Rygbi Cymru: 'Rhaid colli un rhanbarth i sicrhau dyfodol cryf i rygbi yng Nghymru'

Richard Collier-Keywood

Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, wedi dweud y bydd yn rhaid i un o’r rhanbarthau “golli allan” er mwyn sicrhau dyfodol “cryf” i rygbi yng Nghymru. 

Wrth siarad o flaen un o bwyllgorau’r Senedd fore Iau dywedodd Mr Collier-Keywood na fydd yn bosib parhau i ariannu’r pedwar rhanbarth heb beryglu dyfodol rygbi yng Nghymru yn yr hirdymor. 

Daw hynny wedi pryderon fod chwaraewyr a chefnogwyr rygbi yng ngorllewin Cymru wedi “colli ffydd” yn yr Undeb, gyda dyfodol y Gweilch yn y fantol. 

Mae’n fwriad gan yr Undeb i ailstrwythuro trefn bresennol rygbi Cymru, gan gwtogi niferoedd y rhanbarthau o bedwar o dri.

Mae gwrthwynebiad chwyrn i'r posibilrwydd y gallai URC gael gwared â rhanbarth y Gweilch, gyda phryderon eu bod yn ffafrio uno'r rhanbarth â Chaerdydd.

Roedd Richard Collier-Keywood yn siarad o flaen Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol Senedd Cymru ddydd Iau, hynny ar y cyd gyda Chyfarwyddwr Cymunedol yr URC, Geraint John a’r cyfarwyddwr anweithredol annibynnol, Alison Thorne. 

Image
Richard Collier-Keywood
Richard Collier-Keywood

Fe wnaeth yr AS Llafur dros Flaenau Gwent, Alun Davies gyfeirio at wrthwynebiad ar lawr gwlad i gwtogi’r rhanbarthau, gyda’r cyn Dirprwy Weinidog Dros Newid Hinsawdd, yr AS Llafur dros Lanelli Lee Waters yn dweud bod pobl yn ardal ei etholaeth wedi colli hyder yn sefydliad. 

Mewn ymateb dywedodd Richard Collier-Keywood: “Y ffaith yw, rydyn ni â phedwar tîm sydd ddim efo digon o arian i allu bod yn gystadleuol. 

“Does gennym ni ddim y cyllid i ariannu pob un o’r pedwar timau, a sicrhau bod yna gyllid i ariannu isadeiledd rygbi yng Nghymru a fyddai’n caniatáu ni i wneud yr hyn rydych chi’n ein gofyn ni i wneud; sicrhau bod pobl yn cymryd rhan [yn y gêm] a hynny'r holl ffordd drwodd i rygbi proffesiynol.”

A fyddai'r rhanbarthau yn cadw eu henwau?

Y bwriad fyddai darparu tair trwydded ar gyfer tri rhanbarth – “un yn y brifddinas, un yn y dwyrain ac un y gorllewin,” meddai Mr Collier-Keywood. 

Dywedodd aelodau’r Undeb nad oes cynlluniau wedi eu trafod hyd yma o ran enwau’r rhanbarthau newydd. 

“Fe fydd yna drwydded i’r gorllewin ac rydym yn disgwyl y byddai’r bobl sydd yn gwneud cais am y trwyddedau yn ysgrifennu’r hyn y maen nhw eisiau ei gael fel ei enw brand,” ychwanegodd Mr Collier-Keywood.

Dywedodd bod URC wedi wynebu cyfnod heriol drwy geisio gweithredu yn “deg” er lles dyfodol rygbi Cymru. 

Dywedodd bod angen iddynt “weithredu’n deg ac yn gyfartal â phawb, gan mai ni yw'r rheoleiddiwr rygbi yng Nghymru.

“Mae hynny’n ei gwneud yn ofynnol i ni weithredu gam wrth gam yn briodol ac yn deg ar bob adeg.

Ychwanegodd: “Er mwyn bod yn deg, os awn ni o bedwar i dri, bydd yn broses agored a bydd un clwb yn colli allan.

“Roedd y pedwar clwb proffesiynol yn poeni nad oedden ni’n gwneud digon o arian. 

“Roedden ni’n poeni bod yr arian yn cael ei rannu’n gyfartal heb unrhyw gyfle i fuddsoddi.” 

Dywedodd Geraint John bod yr Undeb “wedi bod yn gwrando” ar bryderon pobl gan mai’r cynllun yn wreiddiol oedd cwtogi nifer y rhanbarthau proffesiynol o bedwar i ddau. 

Ddydd Sul fe gyhoeddwyd y byddai Undeb Rygbi Cymru yn wynebu Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol, gyda phleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Collier-Keywood. 

Undeb Ardal Morgannwg Ganol sydd wedi arwain y galwadau. Maen nhw wedi eu lleoli o fewn rhanbarth y Gweilch. 

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.