Menyw 87 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd
Mae menyw 87 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stow Park Avenue am 15:55 ddydd Mawrth yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng car a cherddwr.
Cafodd y fenyw, oedd yn cerdded, ei chludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae teulu’r fenyw wedi cael gwybod.
Mae Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac yn galw ar unrhyw dystion i rannu gwybodaeth neu luniau dashcam.
Fe all unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â’r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600059370.