Ymgyrch i godi arian er cof am ddau ddyn a fu farw ar Yr Wyddfa yn cyrraedd £10,000
Mae ymgyrch i godi arian er cof am ddau ddyn ifanc a fu farw ar ôl mynd ar goll ar yr Wyddfa wedi codi dros £10,000.
Bu farw Eddie Hill, 20 oed, a Jayden Long, 19 oed, o Dereham yn Norfolk wythnos diwethaf wrth ymweld ag Eryri.
Fe ddaeth criwiau achub o hyd i’r dynion ddydd Iau 19 Chwefror, wedi i Heddlu’r Gogledd gael gwybod bod pryderon am les y ddau ddyn ddydd Mercher diwethaf.
Roedd criwiau achub o Lanberis, Aberglaslyn, criw achub mynydd yr awyrlu a gwylwyr y glannau yno, yn rhan o ymdrechion i chwilio am y dynion.
Mae ymgyrch ar wefan Just Giving bellach wedi ei sefydlu i godi arian i Dîm Achub Mynydd Llanberis er cof am Mr Hill a Mr Long.
Yn rhan o’r ymgyrch, fe fydd tri pherson, gan gynnwys modryb Jayden, Steph Jolly, yn cymryd rhan yn hanner marathon Caergrawnt.
Mewn datganiad ar y wefan, dywedodd Ms Jolly eu bod yn codi arian ar gyfer gwirfoddolwyr tîm Achub Mynydd Llanberis, a wnaeth “risgio eu bywydau i geisio achub Jayden ac Eddie.”
“Ar 18 Chwefror, fe wnaethon ni golli ein nai rhyfeddol Jayden wrth ddringo'r Wyddfa, a'i ffrind annwyl Eddie. Mae’r golled wedi torri calonnau eu holl ffrindiau a phawb yn ein teuluoedd,” meddai.
Cafodd teyrngedau i’r ddau ddyn eu rhannu ddydd Sadwrn.
Dywedodd Josie Long, chwaer Jayden: “Dwi methu coelio’r ffaith bod rhaid i mi ‘sgrifennu hyn ond yn anffodus, fe wnaeth fy mrawd anhygoel, caredig a gofalgar farw ddydd Mercher.
“Does dim modd cyfleu mewn geiriau pa mor anodd yw hyn i mi ac i bawb oedd yn adnabod Jayden.
“Roedd e’n gwneud rhywbeth oedd e’n ei garu ac fe wnaeth ein gadael yn rhy fuan a bydd colled ar ei ôl am byth.”
Mewn teyrnged arall ar y cyfryngau cymdeithasol, fe gafodd Eddie Hill ei ddisgrifio fel “bachgen hardd y tu mewn ac allan” gan ei frawd, Harry.
“Dydy geiriau methu disgrifio’r boen yr wyf i a fy nheulu yn ei brofi ar hyn o bryd,” meddai.
Dywedodd fod Eddie yn “frawd hŷn hardd” a “mab oedd wedi’i garu” gan ychwanegu fod ganddo “gynlluniau mawr ar gyfer ei ddyfodol.”
“Fe fydd colled fawr ar ei ôl.”