Cymru’n gweld y cynnydd mwyaf mewn digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn y DU
Mae nifer y bobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd yng Nghymru wedi codi 8% mewn blwyddyn, sef y cynnydd uchaf yn y DU.
Mae ymchwil newydd gan elusen Centrepoint yn dangos bod digartrefedd ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu am y drydedd flwyddyn yn olynol ar draws y DU.
Yn ôl yr elusen, roedd 123,934 o bobl ifanc 16-24 oed yn wynebu digartrefedd rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025 - i fyny o 116,947 yn y 12 mis blaenorol.
Yng Nghymru, cododd y nifer o 5,433 i 5,856. Roedd hyn yn gynnydd o 8%, sef y twf canrannol mwyaf o blith gwledydd y DU.
Roedd cynnydd o 6% yn Lloegr o 101,184 i 107,585, gyda'r Alban yn gweld cynnydd o 2% o 7,434 i 7,604.
Gogledd Iwerddon oedd yr unig wlad i weld gostyngiad bach, a hynny o 2,896 i 2,889.
Dywedodd Balbir Kaur Chatrik, cyfarwyddwr polisi Centrepoint, bod digartrefedd ymhlith pobl ifanc ar "lefelau record".
"Mae profiad digartrefedd yn hynod drawmatig i unrhyw un, ond mae ganddo effaith benodol ar bobl ifanc," meddai.
"Ar adeg pan fo’r rhan fwyaf o’u cyfoedion yn meddwl am brifysgol neu ddechrau gyrfaoedd, mae niferoedd cynyddol o’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn sownd - yn aml mewn sefyllfaoedd brawychus - yn ceisio dod o hyd i gefnogaeth ar eu pen eu hunain."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae pawb yn haeddu cartref diogel a sicr. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl rhag syrthio i dlodi ac i gefnogi’r rhai sydd angen cymorth fwyaf.
"Rydym wedi buddsoddi mwy na £7bn rhwng 2022 a 2026 i gefnogi cartrefi ledled Cymru trwy raglenni i leddfu pwysau ariannol, helpu i wneud y mwyaf o incwm a helpu i gadw mwy o arian yn eu pocedi. Yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, rydym yn buddsoddi bron i £240m mewn atal digartrefedd a chymorth tai.
"Rydym yn annog unrhyw un a allai fod yn cael trafferth i gysylltu â llinell gymorth Hawlia dy arian AdviceLink Cymru i wirio pa gymorth ariannol y gallent fod â hawl iddo."