Aelodau'r Senedd yn dychwelyd i'r Siambr wedi blwyddyn o waith ailddatblygu
Fe fydd Aelodau'r Senedd yn dychwelyd i'r Siambr ddydd Mawrth ar ôl blwyddyn o waith ailddatblygu.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae gwaith wedi mynd rhagddo er mwyn ehangu'r siambr wrth i nifer yr aelodau godi o 60 i 96.
Bydd y 36 aelod newydd yn cael eu hethol am y tro cyntaf yn etholiad y Senedd a fydd yn cael ei gynnal ar 7 Mai.
Y gwaith ailddatblygu yw'r "newid mwyaf" i adeilad y Senedd ers iddo agor 20 mlynedd.
Yn rhan o'r siambr newydd mae 36 o ddesgiau newydd, "gwell hygyrchedd a systemau darlledu a thechnoleg wedi'u huwchraddio".
Cafodd y desgiau newydd eu creu gan ailddefnyddio'r yn derw Cymreig o'r desgiau gwreiddiol a hefyd trwy "ddefnyddio llechi o'r un chwarel yng Nghymru â’r gwaith adeiladu yn 2006," meddai'r Senedd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ASau wedi cynnal dadlau a sesiynau yn y siambr drafod yn adeilad Tŷ Hywel y tu ôl i’r Senedd.
Wrth i'r cyfnod hynny ddod i ben mae Elin Jones AS, Llywydd y Senedd yn dweud bod dychwelyd i'r siambr yn "garreg filltir bwysig."
“Wrth i ni ddychwelyd i’r Siambr, rydyn ni’n nodi carreg filltir bwysig i’n Senedd," meddai.
"Mae ein siambr drafod wedi cael ei thrawsnewid i ddiwallu anghenion senedd fwy a chyfnod newydd o ddemocratiaeth Cymru wrth i ni edrych ymlaen at yr etholiad ar 7 Mai.
"Mae hwn yn adeilad sy’n cynrychioli gonestrwydd, cynaliadwyedd a’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu, ac mae’r newidiadau’n adlewyrchu’r bennod nesaf yn ein taith ddemocrataidd.”
Bydd ASau'n yn dychwelyd i’r siambr ar gyfer Cwestiynau’r Prif Weinidog am 13:30 ddydd Mawrth.