Ennill Tlws Adran Genero yn golygu 'bob dim' i Lili Jones a Wrecsam

Ennill Tlws Adran Genero yn golygu 'bob dim' i Lili Jones a Wrecsam

Mae Lili Jones yn dweud bod ennill Tlws Adran Genero yn golygu "bob dim" iddi hi a Wrecsam wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Caerdydd dros y penwythnos.

Fe wnaeth Wrecsam greu hanes ddydd Sul drwy guro'r Adar Gleision ar giciau o'r smotyn yn rownd derfynol Tlws Adran Genero.

2-2 oedd hi wedi'r chwiban olaf cyn i Wrecsam ennill 4-2 ar giciau o'r smotyn, a chodi Tlws yr Adran am y tro cyntaf yn hanes y clwb.

Roedd Lili Mai Jones, sy'n dod o Wrecsam, yn rhan o'r tîm ddydd Sul, ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C ei fod yn deimlad "mor braf" i godi'r cwpan.

"O’dd o’n meddwl bob dim, codi’r cwpan ‘na yn Bangor yn gogledd Cymru o flaen gymaint o gefnogwyr Wrecsam," meddai.

"O’dd o’n deimlad mor braf, a ti’mod i ni fel tîm ‘dan ni ’di gweithio mor galed dros y tymhorau diwetha’ ‘ma yn rhoid gwaith caled i mewn a ddim o hyd yn gweld y clod am hynna.

"Ma’n neis i gael y fedal aur ‘ma ag o’dd o’n teimlad hyd yn oed gwell gallu codi’r cwpan.

"So, ia, am deimlad."

Image
Lili Jones
Lili yn dathlu gyda'i medal. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Fe wnaeth y rownd derfynol hefyd ddenu'r dorf fwyaf yn hanes y gystadleuaeth, sef 1,374 o gefnogwyr yn Stadiwm Dinas Bangor.

Y record cyn hyn oedd yn rownd derfynol 2024, pan ddaeth 1,088 o gefnogwyr i weld Caerdydd yn trechu Abertawe.

Dyma'r tlws mawr cyntaf i'r tîm ennill ers iddyn nhw ailffurfio yn 2018, a'u buddugoliaeth gyntaf dros Gaerdydd y tymor hwn.

Fe fydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd ddwywaith eto dros y pythefnos nesaf, yn yr Adran Genero Premier cyn herio ei gilydd eto yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru Bute Energy yn Aberystwyth yn ddiweddarach.

Roedd rheolwr tîm y dynion, Phil Parkinson, hefyd yn bresennol yn y dorf, a hynny wedi i'w dîm guro Ipswich yn y Bencampwriaeth o 5-3 ddydd Sadwrn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.