Newyddion S4C

Cymru'n ystyried llacio rheol profion teithio Covid-19

Golwg 360 01/09/2021
Prawf Covid-19.
Prawf Covid-19.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cael gwared ar y rheol sy’n atal teithwyr o Gymru sy'n dychwelyd adref rhag defnyddio profion PCR cwmnïau preifat, yn ôl Golwg360

Ar hyn o bryd, mae’r rheolau yn dweud bod yn rhaid i deithwyr o Gymru ddefnyddio profion £68 y Gwasanaeth Iechyd ar ôl dychwelyd adref o wledydd tramor, neu fel arall, maen nhw'n wynebu dirwy o £1,000.

Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sy’n mynnu bod teithwyr yn defnyddio profion PCR y Gwasanaeth Iechyd.

Mae’n rhaid i deithwyr eu defnyddio ar yr ail ddiwrnod wedi dychwelyd adref, a’r wythfed diwrnod hefyd os nad ydynt wedi eu brechu'n llawn. 

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.