Dau gorff wedi eu darganfod yn Eryri ar ôl i ddynion ifanc fynd ar goll

Dau gorff wedi eu darganfod yn Eryri ar ôl i ddynion ifanc fynd ar goll

Mae dau gorff wedi eu darganfod yn Eryri, wrth i griwiau achub chwilio am ddynion ifanc 19 ac 20 oed oedd ar goll ar Yr Wyddfa.  

Cafodd Heddlu'r Gogledd wybod fod pryderon am les y ddau ddydd Mercher.  

Yn ôl yr Eastern Daily Press - sy'n darparu newyddion yn Norfolk a Suffolk - Eddie Hill a Jayden Long yw enwau'r ddau. Mae'n nhw'n dweud fod y ddau yn dod o ardal Dereham yn Norfolk. 

Fe aeth criwiau achub o Lanberis, Aberglaslyn, criw achub mynydd yr awyrlu a gwylwyr y glannau yno, gan chwilio yn fanwl ar yr Wyddfa tan oriau mân fore Iau. 

Ail ddechreuodd y chwilio tua 8:00 fore Iau. 

Bellach mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi fod cyrff dau ddyn wedi eu darganfod, a'u bod wedi cysylltu â theuluoedd y ddau. 

Maen nhw wedi galw ar i breifatrwydd y teuluoedd gael ei barchu.     

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y marwolaethau. 

Dywedodd Jurgen Dissmann, Cadeirydd Criw Achub Mynydd Llanberis: "Ar ein rhan ni i gyd, hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deuluoedd ac anwyliaid y ddau ddyn sydd wedi colli eu bywydau yn y modd trasig hwn.

"Cafodd y tîm gais gan Heddlu Gogledd Cymru i ddechrau ymgyrch ar y cyd â sawl asiantaeth, mewn amodau gaeafol. Fe aeth gwirfoddolwyr ati i chwilio ardaloedd heriol oedd ag eira a rhew, gan weithio oriau hir gydol y nos mewn tywydd anodd er mwyn ceisio dod o hyd i'r ddau cyn gynted  â bo modd.    

"Er gwaethaf ein holl ymdrechion, mae'n drist iawn nad oedd y canlyniad fel yr oeddem wedi ei obeithio.

"Hoffem ddiolch i Dîm Achub Mynydd Aberglaslyn, Tîm achub mynydd yr awyrlu, SARDA, a Gwylwyr y Glannau am eu cymorth gydol yr ymgyrch."  

Llun: Parc Cenedlaethol Eryri

        

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.