Cau ysgolion gwledig: Plaid Cymru'n 'fradwyr i'n cyndeidiau yn Llangyndeyrn'

Y Byd ar Bedwar

Cau ysgolion gwledig: Plaid Cymru'n 'fradwyr i'n cyndeidiau yn Llangyndeyrn'

Mae un ymgyrchwraig wedi cyhuddo Plaid Cymru o fradychu cyndeidiau pentref Llangyndeyrn gyda chynnig i gau ysgol gynradd y pentref yn Sir Gâr.

Daw’r cyhuddiad yng nghanol ymgyrch y pentref - a oroesodd fygythiad i’w foddi a’i droi’n gronfa ddŵr yn y 60au - i gadw’i ysgol ar agor.

Mae Ann Richards wedi byw yn Llangyndeyrn yng Nghwm Gwendraeth gydol ei hoes. 

Roedd ei diweddar dad, Arwyn Richards, yn aelod blaenllaw o Bwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn yn ystod ymgyrch lwyddiannus y pentref i’w atal rhag cael ei foddi er mwyn creu cronfa ddŵr yn yr 1960au.

“Un peth oedd fy nhad yn cadw dweud ar ôl yr ymdrech fawr nethon nhw yn y 60au - o’dd e gyd yn werth chweil, oherwydd ‘na gyd o’dd e mo'yn o’dd clywed sŵn y plant yn chwarae ar iard yr ysgol.

"Ond, 60 mlynedd ar ôl brwydr y gymuned gyfan i gadw’r pentre’ yn fyw, pwy fyddai’n meddwl y bydden ni nawr yn ymladd i gadw’r ysgol yn Llangyndeyrn ar agor?”

Mae Plaid Cymru yn dweud ei bod yn cefnogi’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, ac yn cydnabod y pwysau sydd ar lawer o gymunedau oherwydd diboblogi. 

Ymgynghoriad

Fis Tachwedd y llynedd, fe benderfynodd Cabinet Cyngor Sir Gâr edrych ar y posibilrwydd o gau Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn. Ers canol Ionawr, mae cyfnod ymgynghori wedi bod ar waith fydd yn dod i ben ddechrau mis Mawrth.

Mae Cyngor Sir Gâr yn dweud eu bod wedi clustnodi Ysgol y Fro, oherwydd ffactorau fel nifer y llefydd gwag sydd yn yr ysgol, nifer y disgyblion sy’n byw yn y dalgylch ond yn mynychu ysgolion eraill, a chostau a sefyllfa ariannol anghynaliadwy.

Ond mae Ann - sydd â’i hŵyr ac wyres yn ddau o’r pymtheg disgybl yn Ysgol y Fro - yn dweud bod yr ysgol yn cynnig mwy nag addysg yn unig.

“Mae ysgol wlad yn part o’r gymuned - mae’n part o Gymreictod, y ffordd ni’n byw. I ni, fel pentre’, mae’n lot fwy na arian - mae e ambiti’n plant ni, ambiti’r dyfodol. ‘Dw’i yn teimlo ein bod ni’n gadael ein cyndeidiau i lawr, a ‘na pham ‘yf i mo'yn brwydro i gadw’r ysgol yn fyw.”

Image
Murlun Cofiwch Llangyndeyrn
Murlun Cofiwch Llangyndeyrn. Llun: ITV Cymru

Plaid Cymru, mewn clymblaid â chynghorwyr annibynnol, sy’n rhedeg Cyngor Sir Gâr. Er bod Llangyndeyrn yn gadarnle traddodiadol i’r blaid, mae Ann wedi dechrau cwestiynu’i chefnogaeth hirhoedlog.

“Plaid Cymru - yr oll maen nhw’n siarad ambiti cadw’r iaith yn fyw, cadw’r gymuned yn Gymraeg, ein treftadaeth ni… Maen nhw’n fradwyr i’n cyndeidiau ni a beth o’n nhw wedi ‘neud yn y 60au. Mae’n warthus.”

Nid Ysgol y Fro yw unig ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg Sir Gâr sydd dan fygythiad o gael ei chau. Mae Ysgol Meidrim hefyd yn mynd drwy gyfnod o ymgynghori statudol ar gynnig i’w chau; tra bod Ysgol Llansteffan eisioes wedi derbyn hysbysiad statudol i’w chau.

Llefydd gwag 

Un sydd wedi bod yn rhan o benderfyniadau i agor a chau ysgolion yw Cyn-Brif Swyddog Adnoddau a Llywodraethu Ysgolion Cyngor Sir Penfro, Huw Jones. 

Mae e’n dweud bod yn rhaid i ysgolion a chynghorau sir wynebu realiti’r sefyllfa ym myd addysg yng Nghymru.

“Sai’n credu bod unrhyw swyddog mo'yn cau unrhyw ysgol, ond ‘dw’i ‘di edrych ar ddogfennau ymgynghori yr ysgolion sydd mewn golwg gyda Sir Gâr, ac maen nhw’n hanner gwag. 

"Mae e’n wastraff arian, achos maen rhaid cynnal ysgol fel ‘se hi’n llawn, ond dim ond canran o’r plant sydd yn yr ysgol, felly ‘dyw e ddim yn gynaliadwy yn ariannol. 

Dylai cynghorau, llywodraethwyr a phenaethiaid fod yn canolbwyntio ar safonau yn hytrach na chynnal llefydd gwag.”

Image
Ann Richards
Ann Richards

Pe bai Ysgol y Fro yn cael ei chau, yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio gan Gyngor Sir Gâr yw bod y disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol y Dderwen, sydd ryw chwe milltir i ffwrdd yng Nghaerfyrddin, a chanddi ryw 360 o ddisgyblion.

Yn ôl ystadegau Cyngor Sir Gâr ei hun, os bydd mwyafrif disgyblion Ysgol y Fro yn dewis symud i Ysgol y Dderwen, byddai’r ysgol honno dros ei chapasiti presennol. Mae’r Cyngor wedi dweud y bydden nhw’n gweithio’n agos gydag Ysgol y Dderwen pe byddai angen capasiti ychwanegol arni.'

'Plwyfol'

Yn ôl Huw Jones, mae angen bod yn "strategol."

"'Dyw e ddim yn golygu bod plentyn ddim yn cael ei adnabod neu ddim yn cael sylw mewn ysgol fwy - ‘dwi’n credu’u bod nhw, ond mae’r holl system yn wahanol," meddai.

"‘Dwi’n gwybod bod ‘na demtasiwn i fod yn rhy blwyfol, efallai, ond mae’n rhaid bod yn strategol a deall bod pethau wedi symud ‘mlaen, ac felly mae’n rhaid i’r Cyngor wneud penderfyniadau anodd iawn.”

Cydbwysedd

Ar ran Cyngor Sir Gâr,  fe ddywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: “Mae'r Strategaeth Rhaglen Moderneiddio Addysg yn darparu ffordd gynaliadwy ymlaen ar gyfer addysg yn Sir Gaerfyrddin. 

"Mae hyn yn cynnwys cynnig darpariaeth fwy cytbwys i ddisgyblion ledled y sir a mynd i'r afael â'r amodau heriol sy'n wynebu llawer o ysgolion unigol a'r system ysgolion ehangach, fel ysgolion sy'n gweithredu gyda disgyblion llawer is na'r capasiti a fwriadwyd, a sefyllfaoedd ariannol anghynaladwy."

Fe ddywedodd Cefin Campbell AS, a llefarydd Plaid Cymru dros addysg bod ei blaid yn "cydnabod" y pwysau sydd ar lawer o gymunedau.

“Rydym yn cydnabod y rôl mae llawer o ysgolion bychain yn ei chwarae o fewn eu cymunedau, ac rydym hefyd yn cydnabod y pwysau sydd ar lawer o gymunedau oherwydd diboblogi. 

"Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig sydd yn rhan o Gôd Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ysbryd y geiriad sydd y tu ôl i’r polisi." 

Pe bai'n ffurfio llywodraeth, ychwanegodd y byddai Plaid Cymru yn ymrwymo i gynnal adolygiad o’r Côd a sut y mae’n cael ei weithredu gan roi buddiannau disgyblion yn flaenaf.

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Ail frwydr Llangyndeyrn ar nos Lun (23 Chwefror), am 20:00, ar S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.