‘Prynwch docynnau’: Her gan brif hyfforddwr yr Alban i’w cefnogwyr
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi’r Alban wedi galw ar eu cefnogwyr i brynu tocynnau sbâr i roi hwb i’r chwaraewyr mewn awyrgylch “swnllyd” yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl i filoedd o docynnau fod ar gael ar gyfer y gêm rhwng Cymru a’r Alban yn y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn yn dilyn y golled drom i Ffrainc wythnos yn ôl.
Roedd adroddiadau fod tua 15,000 o docynnau heb eu gwerthu ar gyfer y gêm honno.
Dywedodd prif hyfforddwr yr Alban Gregor Townsend: "Mae’r gemau cartref yn sicr yn rhywbeth yn y Chwe Gwlad y gallwch ei ddefnyddio i’ch mantais.
"Mae’r awyrgylch yng Nghaerdydd yn un o’r rhai mwyaf swnllyd.
"Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd llawer o Albanwyr yno.
"Roedden nhw'n dal i edrych i werthu tocynnau, felly os gallai’r Albanwyr gael y tocynnau, os gwelwch yn dda, byddai hynny’n wych.”
Mae’r ymwelwyr yn llawn hyder ar ôl y fuddugoliaeth nodedig yn erbyn Lloegr yng Nghaeredin wythnos yn ôl, a hynny ar ôl iddyn nhw golli eu gêm agoriadol yn Yr Eidal.
Mae’r fuddugoliaeth yn Nghwpan Calcutta wedi rhoi hwb i obeithion yr Albanwyr o ennill y Chwe Gwlad am y tro cyntaf.
Er i Gymru ennill 11 o’r 13 gêm ddiwethaf yn erbyn yr Alban, mae’r ddwy golled wedi dod yn y tair gêm ddiwethaf.
Mae Cymru wedi colli pump allan o’u chwe gêm ers i Steve Tandy gymryd yr awenau, gan ildio cyfanswm o 302 o bwyntiau a 42 cais.
Mae hynny’n gyfartaledd o 50 pwynt a saith cais am bob gêm.
Ffrindiau
Mae Tandy a Townsend yn dipyn o ffrindiau ar ôl i Tandy dreulio chwe blynedd fel hyfforddwr amddiffyn yr Alban, ond mae'r cyfeillgarwch ar saib tan ar ôl y gêm.
Dywedodd Tandy fod y negeseuon cyson rhwng y ddau wedi distewi tipyn yn ystod yr wythnos.
"Bydd yn wahanol yn sicr," meddai Tandy.
“Ry’ ni wedi bod yn cyfnewid negeseuon dros yr ychydig wythnosau diwethaf ond mae hynny wedi tawelu yn y dyddiau diwethaf.
“Roedd e’n wych i mi [Townsend], dysgodd lawer i mi am rygbi rhyngwladol, annog i mi fod yn well a chynorthwyo fy nghynnydd a’m datblygiad.
“Na’th e fy herio i ddatblygu mewn meysydd anghyfarwydd ac rwy’n teimlo bod rhywun yn datblygu orau pan fyddan nhw’n teimlo’n anghyfforddus.
Dywedodd Townsend: “Bydd hi'n wych ei weld e [Tandy] ar ôl y gêm.
“Rydyn ni wedi bod yn rhannu negeseuon ond ddim llawer yr wythnos hon.
“Ry’ ni'n hoff o Steve.
"Fe dreuliodd amser hir gyda ni, felly mae wedi bod yn ddylanwad mawr ar ein chwaraewyr.
“Roedd e’n help enfawr i mi fel hyfforddwr."