Profiadau personol menyw o Benarth yn ei hysgogi i gyhoeddi llyfr am fod yn fam
Profiadau personol menyw o Benarth yn ei hysgogi i gyhoeddi llyfr am fod yn fam
Mae mam o Fro Morgannwg yn cyhoeddi nofel newydd i gynnig 'cysur a chymorth' i eraill wedi i brofiadau personol ei hysgogi i ysgrifennu.
Mae Rhian Siôn yn 39 oed o Benarth, a hi yw awdur y nofel newydd 'Gyda'n Gilydd'.
"Os yw e’n helpu rywun i deimlo’n llai ar ben ei hun, byse hwnna’n beth da," meddai Rhian wrth Newyddion S4C.
"Ma hi'n nofel am fenywod cyfoes yn eu 30au a ma'r prif gymeriadau i gyd mewn lle gwahanol yn eu bywyd.
"Ma hi'n cyffwrdd ar y ffaith fod disgwyliadau gan gymdeithas ar fenywod yr oed yna i gyrraedd rhyw cerryg filltir arbennig felly mae'n cyffwrdd ar y ffaith fod disgwyl gan gymdeithas falle bod menywod wedi priodi, a wedi cael plant.
"Yn y bon, stori yw hi am gyfeillgarwch, cyfeillgarwch rhwng menywod a'r pwer sydd mewn cyfeillgarwch rhwng menywod a'r ffordd ni'n helpu'n gilydd trwy fywyd."
Fe wynebodd Rhian heriau personol wedi iddi ddod yn fam am y tro cyntaf.
"Pan ddes i'n fam newydd ar ddechrau fy 30au, nes i ffindio'r cyfnod 'na o fy mywyd i yn anodd iawn. Nes i ddioddef o postnatal depression a o'dd e'n teimlo fel ar y pryd bod neb wir yn siarad am pa mor anodd ma' cael plant," meddai.
"Felly o'dd hwnna yn y cefndir gyda fi a wedyn rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, es i drwy gyfnod arall o iselder a nes i adael swydd ddysgu i wneud gwaith cyflenwi felly o'dd llawer mwy o hyblygrwydd 'da fi.
"Benderfynes i ddechrau sgwennu i wella fy iechyd meddwl."
Fe aeth Rhian ar gwrs trwy Llenyddiaeth Cymru yn Nhŷ Newydd, a gydag anogaeth Llyr Titus oedd yn rhedeg y cwrs ac awduron eraill ar y cwrs, fe gysylltodd Rhian gydag amryw o weisg er mwyn ceisio cael y syniadau wedi eu cyhoeddi.
Fe anfonodd Rhian ei synopsis at wasg Sebra, ac fe dderbyniodd gynnig i gyhoeddi.
"O’n i’n meddwl os gallen i ‘sgwennu am rwbeth fi ’di profi fy hun, byse’r ‘sgwennu yn fwy realistig, o’n i hefyd yn teimlo pan o’n i’n isel ac yn y blaen, bod darllen llyfre i fenywod eitha ysgafn, menywod cyfoes, blêr, bywydau ar chwâl, ond wedyn gyda diweddglo hapus, nath e wir helpu fi trwy’r cyfnod," meddai.
"O’n i’n teimlo fel bod prinder o lyfre yn y genre ‘na felly o’n i’n meddwl byse hi’n braf ‘sgwennu rwbeth o’r un genre yn Gymraeg."
Er mai ffuglen ydy'r gwaith, mae dylanwad profiadau personol Rhian yn y nofel
"Ffuglen yw’r gwaith, ond yn sicr mae fy mhrofiade i fy hun wedi bwydo i mewn iddo fe," meddai.
"Does dim un o’r cymeriade wedi selio arna i, ond ma’ ‘na elfenne o brofiade go iawn, er enghraifft postnatal depression yn un ohonyn nhw, dyw’r geirie ‘na ddim wedi cael eu crybwyll yn y stori ond ma’ ‘na thema cryf bod y cymeriad yn mynd trwy rywbeth fel ’na.
"O’n i’n gobeithio bydde hwnna yn falle yn gymorth neu gysur i rywun, a hefyd y thema ‘ma o jyst be’ chi’n neud pan dyw bywyd ddim yn troi mas fel oeddech chi’n meddwl byse fe."
Fi’n credu pan y’n ni’n ifanc ac yn breuddwydio am pan bydden i wedi tyfu fyny a be o’n i ishe neud a be’ ni isie ein bywyd i edrych fel, a wedyn yn sydyn, ni yn 30 a ni ddim yn gwybod, dyw hwnna ddim wedi gwireddu, a sut ma’ delio ‘da hynny rili.
Roedd ysgrifennu am rai o'r profiadau y mae hi wedi eu profi yn gymorth mawr i Rhian.
"Pan y’ch chi’n ‘sgwennu am rwbeth ‘dych chi’n gw’bod amdan hefyd, fi’n credu bod y stori yn dueddol o fod yn fwy tyner, yn fwy emosiynol ag os o'n i'n meddwl os gallen i 'sgwennu am rywbeth fi 'di profi fy hun, wedyn byse'r 'sgwennu yn fwy realistig," meddai.
"Hefyd o'n i yn ffeindio fe'n help, o'n i'n teimlo trueni dros y cymeriad wrth 'sgwennu amdani ble o fy mhrofiad i, o'n i'n teimlo'n euog lot, o'n i'n teimlo fel fy mai i oedd pethe.
"Ond trwy sgwennu am rywun arall yn mynd drwy'r profiad, o'n i'n teimlo fel sdim raid ti deimlo'n euog, ma' hwn yn salwch a dyw e ddim yn neis."