Enwi dau sgïwr a fu farw mewn avalanche yn Ffrainc

17/02/2026
Y ddau a fu farw

Mae dau sgïwr o Brydain a fu farw mewn eirlithriad (avalanche) yn Alpau Ffrainc wedi cael eu henwi.

Roedd Stuart Leslie a Shaun Overy yn rhan o grŵp o bump o bobl a oedd yn sgïo oddi ar y llethrau yn Val d’Isère yn ne-ddwyrain Ffrainc ddydd Gwener.

Cafodd y pump eu sgubo i ffwrdd gan yr eirlithriad.

Cafodd dyn o Ffrainc, a oedd yn sgïo ar ei ben ei hun, hefyd ei ladd, tra bod sgïwr arall o Brydain wedi goroesi.

Roedd gwasanaeth tywydd cenedlaethol Ffrainc wedi cyhoeddi rhybudd coch am berygl eirlithriad ddydd Iau.

Dyma’r trydydd tro’n unig i rybudd o’r fath gael ei gyhoeddi yn y 25 mlynedd ers cyflwyno’r system, yn ôl papur newydd Le Monde.

Y gred yw bod Leslie, 46, a oedd yn cyhoeddi’n rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol am ei anturiaethau sgïo, yn ffrindiau ag Overy, 51, a oedd yn rhedeg cwmni plymio yn Wimbledon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.