Ffilmio’n dechrau ar gyfres newydd o Tipyn o Stad
Mae ffilmio wedi dechrau ar adfywiad o un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C dros y blynyddoedd, sef Tipyn o Stad.
Mae STAD, sy’n ddilyniant o’r gyfres wreiddiol, wedi dechrau ffilmio ddydd Llun yn ôl adroddiadau,
Daeth y rhaglen wreiddiol i ben yn 2008, wedi saith o gyfresi.
Bydd STAD yn dilyn hanesion trigolion stad Maes Menai ddeng mlynedd yn ddiweddarach, gydag ambell wyneb newydd yn rhan o’r cast.
Mae’r gyfres newydd wedi ei chynhyrchu gan Cwmni Da a Triongl, gydag Angharad Elen yn brif sgriptwraig.
Yn ddiweddar, daeth galwad gan dîm cynhyrchu’r am drigolion ardal Caernarfon i ymddangos fel ‘ecstras’ yn y gyfres.
Cafodd STAD ei chyhoeddi yn gyntaf ar ddechrau mis Rhagfyr.
Ar y pryd, dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Dwi'n falch iawn o gyhoeddi comisiwn newydd yn seiliedig ar y gyfres boblogaidd hon sydd wedi ei lleoli yng Nghaernarfon.
"Daeth apêl y cyfresi blaenorol yn amlwg yn ddiweddar wrth i do newydd o bobl ifanc heidio at S4C Clic i wylio bocs sets Tipyn o Stad.
"Yn sicr mae na awydd gwirioneddol i ail gydio ym mywydau cymeriadau lliwgar y ddrama wreiddiol hon gan hefyd gyflwyno cymeriadau Newydd”.
Mae disgwyl i STAD gael ei darlledu ar S4C yn 2022.
Llun: Tipyn o Stad Fans (Facebook)