Capel eiconig ‘Cwm Rhondda’ yn nwylo'r gymuned leol

12/02/2026

Capel eiconig ‘Cwm Rhondda’ yn nwylo'r gymuned leol

Mae adeilad oedd yn fan geni un o emynau mwyaf adnabyddus Cymru bellach yn nwylo'r gymuned leol. 

Ar ôl cyfnod ansicr, mae Capel Rhondda yn dechrau pennod newydd yn ei hanes, diolch i ymgyrch gan y gymuned i godi arian i brynu'r adeilad.

Y capel enwog oedd lleoliad perfformiad cyntaf erioed yr emyn eiconig 'Cwm Rhondda' ar 1 Tachwedd 1907.

Mae’r grŵp cymunedol, Capel Rhondda Cyf. wedi cymryd perchnogaeth o'r capel yn Nhrehopcyn, ger Pontypridd, ar ôl codi £72,600 trwy ymgyrch codi arian a ddenodd gefnogaeth leol a rhyngwladol. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dyfarnu £10,000 drwy gynllun grant Perthyn i gefnogi camau nesaf y prosiect a helpu i ddod â gweledigaeth y gymuned yn fyw.

'Pobl yn dod at ei gilydd'

Dywedodd Rhian Hopkins, un o Gyfarwyddwyr Capel Rhondda Cyf: “Mae prynu Capel Rhondda yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd pobl yn dod at ei gilydd. 

"Rydyn ni mor falch o'r hyn ydyn ni wedi ei gyflawni drwy ein hymgyrch codi arian cymunedol ac yn ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwyd, gan unigolion a sefydliadau o bell ac agos. 

"Mae perchnogaeth gymunedol o'r capel nid yn unig yn symbol pwerus, ond mae'n sicrhau y bydd dyfodol Capel Rhondda yn cael ei siapio gan leisiau lleol, gan gadw gofod cymunedol pwysig ar gyfer cenedlaethau i ddod. 

"Mae'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i derbyn gan y grant Perthyn yn allweddol i'n helpu i gymryd y camau nesaf, gan ein galluogi i gynnal arolygon hanfodol a chynllunio'r atgyweiriadau angenrheidiol i allu ailagor drysau'r adeilad gwerthfawr hwn. 

"Er ein bod yn cydnabod yr heriau niferus sydd o'n blaenau, o sicrhau cyllid ychwanegol sylweddol i wneud gwaith atgyweirio ac adfer helaeth, rydyn ni wedi ymrwymo i ymgynghori â phobl leol i greu lleoliad croesawgar i bawb, lle bydd ein treftadaeth yn cael ei drysori."

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, â'r capel ddydd Iau i ddathlu'r pryniant, ddiwrnod ar ôl i  Capel Rhondda Cyf dderbyn allweddi'r adeilad.

Perfformio Cwm Rhondda

Yn ystod ymweliad yr Ysgrifennydd Cabinet, perfformiodd aelodau Côr Meibion Pontypridd yr emyn Cwm Rhondda.

Dywedodd Mark Drakeford: “Roedd hi’n wych ymweld â Chapel Rhondda heddiw, mor fuan ar ôl i’r gymuned dderbyn yr allweddi, ac i ddathlu beth sydd wedi ei gyflawni. Roedd clywed y côr yn perfformio’r emyn yn ei man geni yn brofiad teimladwy.

"Rwy'n falch o gefnogi'r prosiect hwn drwy’r grant Perthyn, gan helpu i ddiogelu adeilad o wir arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan greu hwb i'r gymuned gyfan, lle gellir hybu a defnyddio’r Gymraeg." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.